Argymelliadau i fyfyrwyr newydd Cymru
Heddiw
Ydych chi ar fin dechrau prifysgol eleni? Croeso i fywyd coleg!
Rydym yn gwybod y gall teithio o gwmpas ardal newydd fod yn dipyn o brofiad! TrawsCymru yw’r dewis gorau o ran teithio ar fws trwy Gymru. Byddwn ni yna i chi, boed hynny ar gyfer darlithoedd, ymweld â llefydd newydd neu nosweithiau allan a theithio adref.
Dyma rai awgrymiadau i'ch helpu, ac i chi ddod i adnabod Cymru’n well.
Trefnwch gerdyn teithio i gael tocynnau bws rhatach
16-21 mlwydd oed? Hawliwch senglau bws £1 a thocynnau diwrnod £3 ar holl wasanaethau TrawsCymru ar y rhan fwyaf o fysiau Cymru, gyda fyngherdynteithio. Er mwyn arbed arian pan fyddwch chi'n teithio ar fws a’i wario ar yr hyn sy'n bwysig i chi, ewch i https://trc.cymru/ffyrdd-o-deithio/bws/tocyn-bws-1-i-bobl-ifanc
Archwilio Cymru gyda TrawsCymru
Nid dim ond ar y campws colegol mae bywyd myfyrwyr. Gyda TrawsCymru, gallwch archwilio'r gorau o'r hyn sydd gan Gymru i'w gynnig, ar garreg eich drws. Dyma ychydig o ysbrydoliaeth ar gyfer eich teithiau:
Prifysgol Aberystwyth: T1, T2, T5
- Mwynhewch drefi arfordirol lliwgar megis Aberaeron, Ceinewydd ac Aber-porth.
- Cymrwch eich esgidiau cerdded ac ewch i'r gogledd i gopaon Parc Cenedlaethol Eryri gyda’r T2.
- Neidiwch ar y T2 i Fachynlleth - siopau annibynnol a gŵyl gomedi enwog bob mis Mai.
Prifysgol Bangor: T2 a T10
- Archwiliwch strydoedd hanesyddol Caernarfon a’r castell yno.
- Cricieth yw’r man mwyaf dymunol ar lan y môr!
- Mwynhewch lwybrau coedwig a rhaeadrau Betws-y-Coed trwy neidio ar y T10.
Prifysgol Wrecsam: T3
- Teithiwch i Langollen ar gyfer y trên stêm, golygfeydd glan yr afon a theithiau cerdded i'r gamlas.
- Archwiliwch olygfeydd hardd Afon Dyfrdwy.
- Daliwch y bws i Gorwen, tref farchnad hanesyddol.
Mae’r amserlenni ar gael yn Gymraeg fan hyn.
Arbedwch arian ar atyniadau lleol gyda'ch tocyn bws
Rydym yn partneru ag atyniadau ledled Cymru i'ch helpu i arbed arian ar eich diwrnodau allan mawr. Dyma atyniadau y gallwch gael gostyngiad gyda nhw pan fyddwch chi'n teithio gyda TrawsCymru:
Plantasia, sŵ coedwig law drofannol yng nghanol Abertawe. Gostyngiad o 20% trwy deithio ar fws T6 TrawsCymru.
Rheilffordd Dyffryn Rheidol, rheilffordd trac cul eiconig o Aberystwyth i Bontarfynach. Arbedwch 10% ar eich mynediad pan fyddwch chi'n teithio gyda TrawsCymru.
Castell Caernarfon a Chastell Cricieth. Fel rhan o Fis Dal y Bws, gall cwsmeriaid sy'n teithio ar fws T2 TrawsCymru gael mynediad 2 am 1 yng Nghaernarfon a Chastell Cricieth (yn ddilys tan 30 Medi 2026).
Darganfyddwch fwy am ein partneriaethau Diwrnodau Allan fan hyn.
Y bysus allweddol i brifysgolion yng Nghymru
T1 - Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
T1, T2, T5 - Prifysgol Aberystwyth
T2, T10 - Prifysgol Bangor
T6 - Prifysgol Abertawe
T3/T3C, T51 - Prifysgol Wrecsam