Difyrrwch Dolgellau

Ddoe Fri 20th Nov 2026

Shop fronts on a small street in Dolgellau

Eisiau cefnogi busnesau annibynnol? Mae yna lond y lle ohonyn nhw yng Nghymru. Ar gyfer Dydd Sadwrn Busnesau Bach, rydyn ni'n tynnu sylw at Ddolgellau. 

Mae Dolgellau ym Mharc Cenedlaethol Eryri ac felly’n adnabyddus am ei golygfeydd mynyddig hardd, llwybrau cerdded a threftadaeth gerddorol y Sesiwn Fawr.  Digon i ddarganfod felly; caffis clyd a chynnyrch lleol o Gymru gan gynnwys nwyddau pobi unigryw wedi'u creu â llaw.  Mae Dolgellau yn lle gwych i ymweld pan fyddwch yng ngogledd-orllewin Cymru. Dyma diléits Dolgellau y gallwch eu darganfod pan fyddwch yn teithio gyda ni. 

Dylanwad  

Mae'r mewnforiwr gwin annibynnol a'r deli Dylanwad yn gyntaf ar ein rhestr. Yn gartref i boteli lleol a byd-eang, mae'n lle gwych i ddod o hyd i anrheg i garedigion gwin eich bywyd.  

Fe welwch hefyd amrywiaeth o eitemau eraill gan gynhyrchwyr Cymreig; hamperi Nadoligaidd, craceri, caws, a'r siocled eiconig Coco Pzazz – ni fyddwch yn gadael yn waglaw. Mwynhewch wydraid o win neu ddiod boeth yn eu seddi ffenestr wrth edrych allan i’r stryd. 

Ystafelloedd Te a Siop Gwyndy 

Camwch i mewn i'r tymor Nadoligaidd yn y Gwyndy sy’n llawn anrhegion unigryw. Dyma'r lle perffaith ar gyfer siopa Nadolig; clustogau lliwgar, darnau i’r cartref wedi’u creu â llaw. 

Mwynhewch de prynhawn clasurol, neu ystyriwch eu dewis Nadoligaidd. Mwynhewch ciabatta twrci rhost a llugaeron, sgons ffrwythau wedi'u socian mewn brandi, pasteiod briwgig a mwy.     

Popty'r Dref 

Pe baech yn hoff o felysfwyd, ewch i Popty'r Dref am fynsen fêl eiconig Dolgellau,  

Dim dyna’r cyfan – ystyriwch sgons clasurol llawn jam a sleisys cwstard neu gacennau bisgedi miliwnydd.  Mae'n bur amhosib i wwrthsefyll temtasiwn yr holl ddanteithion! 

Fforc, Corc a Phlu 

Close up of a coffee

Chwilio am le tawel i fwynau llyfr? The Fork, Cork and Feathers yw'r man i chi.  

Ymgartrefwch gyda choffi Rhostwyr Eryri a llyfr da. Ceisiwch eu deli am gynnyrch lleol Cymreig, o jam chilli Mwg Cymru i rym a charamel hallt Crwst. 

Mae'r caffi hefyd yn cynnal nosweithiau bistro â thema – ewch i'w tudalen Facebook i gynllunio eich ymweliad. 

Sut i gyrraedd Dolgellau 

TrawsCymru bus

Gall ein bysiau TrawsCymru fynd â chi i Ddolgellau. Neidiwch ar y: 

  • T2, yn gweithredu rhwng Bangor ac Aberystwyth. Y cysylltiadau rheilffordd ar hyd llwybr T2 i Ddolgellau yw Machynlleth a Morfa Mawddach  
  • T3/T3C, sy'n gweithredu rhwng Wrecsam a’r Bermo. Y cysylltiad rheilffordd agosaf ar hyd llwybr T3/T3C yw Y Bermo. 

Dolgellau yw un o’r mannau mwyaf atyniadol yn Eryri, dechreuwch gynllunio eich taith gyda ni yma.