Mynd o A - B

Tocynnau symudol

Prynwch docynnau ar eich ffôn symudol gyda cherdyn debyd neu gredyd - does dim angen chwilio am arian mân!

Prisiau tocyn symudol

Ffefrynnau

Gallwch gadw eich Amseroedd Gadael a Theithiau rheolaidd i gael gafael arnyn nhw mewn un dewislen hwylus.

Amserlenni

Rydyn ni wedi llwyddo i gasglu'r holl lwybrau ac amserlenni ar flaenau'ch bysedd. Roedd yn dipyn o dasg credwch fi!

Amseroedd Gadael Byw

Chwiliwch y map am safleoedd bws, darganfyddwch pryd fydd y bysiau'n gadael, neu tarwch olwg ar gyrchfannau i weld ble allech chi fynd nesaf. Rhowch gynnig ar y botwm ‘Cyrchfannau’!

Trefnu eich taith

Cynlluniwch eich taith dyddiol i'r gwaith neu eich trip i'r siop. Gyda dros 11,000 o leoliadau mae digon i'ch cadw'n brysur.

Y Diweddaraf am Wasanaethau

Dyma'r sgrin olaf oherwydd does neb yn hoffi gweld problemau ar eu taith. Ond nawr gallwch chi gael y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw newidiadau i'r gwasanaeth yn yr ap.