Arbedwch arian ar eich diwrnod allan nesaf yn Plantasia gyda'ch tocyn bws T6
2 fis yn ôl
Gallwch gael tocynnau rhatach pan fyddwch chi'n ymweld â Plantasia yn Abertawe drwy deithio ar ein bws T6. Darganfyddwch fyd o fywyd gwyllt ac anifeiliaid yng nghanol y ddinas, a mwynhewch daith well gyda thocynnau am brisiau gostyngol. Darllenwch ymlaen i gael rhagor o wybodaeth am y cynnig, sy’n rhan o gynllun Diwrnodau Allan Trafnidiaeth Cymru.
Beth yw'r cynnig?
20% oddi ar fynediad i Sŵ Trofannol Plantasia yn Abertawe
Sut ydw i'n manteisio ar y cynnig?
Archebwch ar-lein drwy https://www.plantasiaswansea.co.uk/ a defnyddiwch y cod ‘TRAWS20’ wrth y ddesg dalu. Yna bydd angen i chi ddangos prawf eich bod wedi teithio i’r atyniad ar y T6 pan fyddwch yn cyrraedd. Dim ond ar-lein y mae'r gostyngiad ar gael i'w ddefnyddio a'ch cyfrifoldeb chi yw gwneud hyn. Ni ellir cael gostyngiadau trwy ddangos tocyn bws TrawsCymru wrth brynu tocynnau yn yr atyniad. Mae'r gostyngiad ar gael wrth fynd i mewn i Plantasia yn unig ac nid ar docynnau bws.
Oes dyddiad dod i ben?
Nid oes dyddiad dod i ben i'r cynnig hwn ar hyn o bryd.
Unrhyw delerau ac amodau i'w hystyried?
- Mae'n ddilys ar gyfer Mynediad Cyffredinol a Digwyddiadau Arbennig, ac eithrio Dinomania, Calan Gaeaf a'r Nadolig.
- Rhaid i ymwelwyr gyflwyno tocyn bws ar gyfer teithio ar yr un diwrnod wrth gofrestru.
- Mae'n ddilys ar gyfer archebion ar-lein yn unig.
Darganfyddwch ble arall y gallwch gael gostyngiadau fel rhan o gynllun Diwrnodau Allan Trafnidiaeth Cymru: https://trc.cymru/ffyrdd-o-deithio/rheilffordd/arbedion-a-chynigion/pris-gostyngol-i-atyniadau