Mwynhewch deithio symlach gyda'n tocyn diwrnod newydd, T4 Cyswllt

Ddoe Thu 26th Nov 2026

T4 in Bluith Wells

O ddydd Sul 6 Rhagfyr, byddwn yn treialu tocyn diwrnod T4 Cyswllt ar gyfer teithiau ar wasanaeth bws TrawsCymru T4 a'n gwasanaeth rheilffordd rhwng Merthyr Tudful a Chaerdydd.

Bydd T4 Cyswllt yn gwneud teithio ar y trên ac ar ein gwasanaeth bws T4 yn symlach ac yn haws, trwy ddefnyddio un tocyn cyfunol. Dyma rai cwestiynau cyffredin i'ch helpu i ddeall y tocyn newydd.

Ble gallaf brynu tocyn T4 Cyswllt?

Gallwch brynu'r tocyn drwy ein ap TrawsCymru, a bydd hefyd ar gael i'w brynu ar wasanaeth y T4. Mae'n ddilys am un diwrnod ar wasanaeth bws y T4 a gwasanaethau trên rhwng Merthyr a Chaerdydd.

Sut ydw i'n defnyddio tocyn T4 Cyswllt?

Os ydych chi'n prynu'r tocyn ar ein ap TrawsCymru, caiff cod QR ei greu. Gallwch sganio'r cod QR ar y bws T4 a'i ddangos i staff mewn gorsafoedd trên er mwyn iddynt allu dilysu eich tocyn.

Mae'r un broses yn berthnasol i docyn papur, lle bydd y cod QR yn cael ei argraffu ar y tocyn.

Faint fydd Tocyn T4 Cyswllt yn ei gostio?

  • Tocyn Oedolyn- £10.50
  • Anabl/Dros 60 - £6.10 (rhaid i'r teithiwr feddu ar Gerdyn Bws Consesiynol Cymru)
  • Person Ifanc (16 - 21) - £8.10 (Rhaid i deithiwr feddu ar gerdyn fyngherdynteithio)
  • Plentyn (5 - 15) - £6.60

Ar ba wasanaethau rheilffordd y gallaf ddefnyddio’r tocyn T4 Cyswllt?

Gallwch ddefnyddio eich tocyn T4 Cyswllt i deithio rhwng y gorsafoedd canlynol:

  • Merthyr Tudful
  • Pentre-bach
  • Troed-y-rhiw
  • Ynysowen
  • Mynwent y Crynwyr
  • Abercynon
  • Pontypridd
  • Trefforest
  • Ystad Trefforest 
  • Ffynnon Taf
  • Radur
  • Llandaf
  • Cathays
  • Caerdydd Heol y Frenhines
  • Caerdydd Canolog

Angen ysbrydoliaeth ar gyfer lle i deithio gyda thocyn T4 Cyswllt? Dyma ein rhestr o bethau i'w gwneud: https://traws.cymru/cy/5-places-you-can-visit-on-the-t4 

Fel arall, dechreuwch gynllunio eich taith gyda ni yma: https://traws.cymru/cy