Marchnadoedd y Nadolig yng Nghymru y gellir eu cyrraedd ar y bws

Heddiw Mon 9th Nov 2026

Christmas Market

Gyda’r nosweithiau’n tywyllu’n gyflymach a’r tymheredd yn disgyn, mae hi’n amser ymweld â marchnadoedd y Nadolig yng Nghymru. Dychmygwch eich hunain yn crwydro o amgylch y stondinau artisan gyda gwin neu siocled poeth, goleuadau'r Nadolig yn disgleirio o’ch amgylch, carolau’n canu yn y cefndir, a’r cyfan oll heb orfod becso am yrru adref.

P’un a hoffech ddiwrnod Nadoligaidd yn Aberystwyth, Abertawe neu Wrecsam, dechreuwch gynllunio eich gwyliau gyda ni. Dyma ychydig o farchnadoedd y Nadolig yng Nghymru y gallwch deithio iddynt ar y bws.

Aberystwyth

Marchnad y Nadolig Aberystwyth, 28 Tachwedd 2026 (T1, T2/T28, T5)

Dechreuwch dymor y Nadolig yn Aberystwyth gyda’r Farchnad Nadolig a’r digwyddiad Goleuo’r Dref. Crwydrwch o amgylch dros 40 o stondinau, cymrwch ran yn y Parêd Llusernau, a mwynhewch garolau ac adloniant cyn i oleuadau’r goeden Nadolig gael eu goleuo.

Ffair Crefftau’r Gaeaf Aberystwyth, 10 Tachwedd - 23 Rhagfyr (T1, T2/T28, T5)

Rhowch anrheg unigryw i chi’ch hunain neu i rywun annwyl ichi yn Ffair y Gaeaf, Aberystwyth. Cymrwch olwg ar waith gan dros 50 o artistiaid lleol, o waith cerameg a chrochenwaith i decstilau, gemwaith, a gwaith pren.

Mae’r bws T2/T28 a T5 yn eich cludo i fyny Penglais Hill i Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth.

Llanerchaeron

Nadolig yn Llanerchaeron, 5,6,12,13, 19, 20 Rhagfyr (T1)

Wedi’ch amgylchynu gan addurniadau prydferth, mwynhewch hud a lledrith y Nadolig yn Llanerchaeron, Aberaeron. Mwynhewch stondinau lleol, danteithion artisan, a gweithdy torchau.

Os oes yn well gennych chi weithgaredd Nadoligaidd tawel, beth am fynd am dro gaeafol o amgylch y gerddi? Crwydrwch o amgylch yr ardd a’r llyn, ac ewch i’r siop lyfrau ail-law.

Dewch oddi ar y bws yn New Inn Forge, lle gellir cyrraedd Llanerchaeron mewn llai na 15 munud ar droed.

‘Brecon With Bells On’, 29 Tachwedd 2026 (T4, T6)

Neidiwch ar fws Siôn Corn, gwyliwch oleuadau’r Nadolig yn cael eu goleuo a mwynhewch adloniant byw.

Mae’r bysiau T4 a T6 yn stopio ar Bulwark Street a Free Street, sef y safleoedd bysiau agosaf at Farchnad Aberhonddu, lle fydd y stondinau.

Cardigan Castle

Ffair Nadolig Castell Ceredigion, 28 Tachwedd 2026 (T5)

Camwch i mewn i Gastell Caernarfon a mwynhewch brynhawn o hwyl Nadoligaidd. Crwydrwch o amgylch y stondinau a mwynhewch yr adloniant o fewn gerddi’r castell.

Neidiwch oddi ar fws T5 yn Finch Square.

Marchnad Nadolig Abertawe, 21 Tachwedd - 22 Rhagfyr (T6)

P’un a ydych yn chwilio am ysbrydoliaeth ar gyfer diwrnod allan i’r teulu neu brynhawn gyda ffrindiau, mae yna rywbeth i bawb ym Marchnad Nadolig Abertawe. Gwnewch eich hunain yn gartrefol gyda gwin poeth yn un o’r chalets pren, crwydrwch o amgylch y stondinau yn y ‘Merry Marquee’, a mwynhewch ddiwrnod hudol ym Mae Abertawe.

Dewch oddi ar fws T6 ar Safle F yng ngorsaf Fysiau Abertawe, lle gellir cyrraedd Marchnad y Nadolig mewn 5 munud ar droed.

Ruthin Castle

Marchnad Artisanaidd Rhuthun, ‘Ruthin Artisan Markets Christmas Extravaganza’, 28 Tachwedd 2026 (T8, T51)

Mae’r digwyddiad sydd wedi ennill gwobrau, ‘Ruthin Christmas Extravaganza’, yn dychwelyd y flwyddyn hon. Gyda dros 100 o stondinau artisanaidd, dyma’r man perffaith i ddod o hyd i anrheg Nadolig unigryw i rywun annwyl.

Neidiwch oddi ar y bws yn Neuadd y Dref.

Marchnad Nadolig Fictoraidd Wrecsam, 26 - 29 Tachwedd 2026 (T3/T3C)

Mae’r Farchnad Nadolig Fictoraidd yn dychwelyd ym mis Tachwedd am bedair diwrnod Nadoligaidd yng nghalon Wrecsam. Mwynhewch gerddoriaeth byw yn Eglwys St Giles, y ffair fictoraidd yn Queen’s Square, a chabanau pren llawn anrhegion unigryw a bwyd blasus.

Neidiwch oddi ar fysiau T3/T3C yng ngorsaf Fysiau Wrecsam.

 

Mae hud a lledrith y Nadolig yn dechrau yn y marchnadoedd Nadolig yng Nghymru. Gadewch inni wneud y gyrru dros y Nadolig - cynlluniwch eich taith yma.