Gadewch inni wneud y gyrru dros y Nadolig

6 diwrnod yn ôl Wed 21st Oct 2026

TrawsCymru bus in a woven festive street

Marchnadoedd Nadolig, gwin brwd, mins peis a mwy - mae’r cyfan oll rownd y gornel. Teithiwch ar y bws gyda TrawsCymru a mwynhewch hud a lledrith y Nadolig heb orfod becso am y car.

Nawr yw’r amser perffaith i ddechrau cynllunio eich diwrnod Nadoligaidd allan, p’un a yw’n siopa Nadolig, marchnadoedd y Nadolig neu’n gyngerdd carolau. Un peth sy’n hawdd ei gynllunio yw sut i deithio - gadewch inni wneud y gyrru dros y Nadolig.

Seddi â golygfeydd yn lle ciwio yn y meysydd parcio

Ar ôl diwrnod ym marchnadoedd y Nadolig wrthi’n siopa am anrhegion ac yn mwynhau’r dathliadau, y peth olaf y byddwch chi am feddwl amdano yw gyrru. Dyma rai o’n rhesymau gorau dros ddewis teithio ar y bws dros dymor y Nadolig:

  • Osgowch y straen o ddod o hyd i le parcio
  • Dydy ffyrnigrwydd ar y ffordd byth yn hwyl, yn enwedig adeg hon o’r flwyddyn - eisteddwch yn ôl, ymlaciwch ar y bws a gadewch inni yrru
  • Rhowch bach o amser yn ôl i’ch hunain, p’un a oes gennych lyfr i’w ddarllen neu rydych am sgrolio drwy’ch ffôn a gwneud ychydig o siopa ar-lein
  • Arbedwch arian ar gostau’r meysydd parcio a phetrol

Dulliau talu hawdd wrth deithio ar y bws

Anghofiwch am gostau parcio uchel. Pan fyddwch yn teithio gyda ni, mae yna ddigonedd o ffyrdd hawdd ichi dalu am eich taith:

  • Tap ymlaen, Tap ymadael - ffordd hyblyg o deithio gyda’r gost yn cael ei gyfrif yn seiliedig ar y pellter a deithiwyd ac i ble yr ydych yn teithio
  • Ap TrawsCymru - ystod o docynnau digidol, hygyrch, fel ein Tocyn Diwrnod 24 awr, sydd ar gael ar yr ap yn unig
  • Ar y bws - gallwch dalu gyda’ch cerdyn neu ag arian parod wrth fynd ar ein bysiau

P’un a ydych yn hoff o hyblygrwydd Tap ymlaen, Tap ymadael neu fod yn well gennych chi gael tocynnau o’r ap, mae talu am eich tocynnau bws yn syml gyda ni.

Digwyddiadau’r Nadolig yng Nghymru

Ydych chi’n barod i ddechrau cynllunio eich diwrnod allan i ddathlu’r Nadolig? Dyma rai o’r digwyddiadau hudolus y gellir eu cyrraedd ar fws:

  • Marchnad Nadolig Aberystwyth, 28 Tachwedd 2026 (T1, T2/T28, T5)
  • ‘Brecon With Bells On’, 29 Tachwedd 2026 (T4, T6)
  • Caernarfon - Gŵyl Nadolig Glynllifon, 7 & 8 Tachwedd 2026 (T2/T28)
  • Ffair Nadolig Castell Aberteifi, 28 Tachwedd 2026 (T5)
  • Marchnad Nadolig Abertawe, 29 Tachwedd - 22 Rhagfyr (T6)
  • Marchnadoedd y Nadolig Rhuthun, ‘Ruthin Artisan Markets Christmas Extravaganza’, 28 Tachwedd 2026 (T8, T51)
  • Marchnad Fictoraidd y Nadolig Wrecsam, 26 – 29 Tachwedd 2026 (T3/T3C)

O drefi ar lan y môr fel Aberystwyth i fannau hynafol fel Rhuthun, teithiwch ar y bws a mwynhewch dymor y Nadolig gyda ni. Dechreuwch gynllunio eich taith yma.