Awgrymiadau gwych i fyfyrwyr newydd yng Nghymru

1 flwyddyn yn ôl Fri 22nd Aug 2025

Awgrymiadau gwych i fyfyrwyr newydd yng Nghymru

Ydych chi’n dechrau yn y brifysgol fel myfyriwr newydd eleni? Llongyfarchiadau, a chroeso i Gymru.

Gall hwn fod yn gyfnod cyffrous ond brawychus. Efallai eich bod chi'n meddwl: sut ydw i am gyllidebu gan ddefnyddio fy menthyciad myfyrwyr? Ble mae'r safle bws ar gyfer mynd i’r campws? Ble alla i gael y bargeinion gorau i fyfyrwyr?

Gallwn ni helpu i ddarparu rhai o'r atebion hyn. Dyma ein rhestr o’r cyngor gorau i'ch helpu i ymgartrefu yn ystod y bennod newydd a chyffrous hon yn eich bywyd.

 

Archwiliwch yr ardal

Ymgyfarwyddwch â’r ardal leol, a fydd yn gartref newydd i chi am yr ychydig flynyddoedd nesaf. O siopau lleol, tafarndai a marchnadoedd i lwybrau arfordirol hardd, mae digon i'w archwilio tra’n astudio yng Nghymru. Os ydy byw ar yr arfordir yn brofiad newydd i chi ac rydych chi am gael rhywbeth i'w fwyta yn yr awyr agored, byddwch yn wyliadwrus o'r gwylanod!

 

Cyllideb

Efallai bod cyllidebu’n swnio’n ddiflas ond mae’n bwnc pwysig, yn enwedig pan fyddwch chi’n derbyn eich benthyciad myfyrwyr am y tro cyntaf. Treuliwch amser yn gweithio allan faint sydd ei angen arnoch chi ar gyfer costau byw hanfodol, fel:

  • Biliau cartref
  • Teithiau bws
  • Siopa bwyd wythnosol
  • Trwydded deledu (os ydych chi'n gwylio teledu Freeview)

Meddyliwch am y pethau hanfodol hyn cyn gwario ar bethau fel dillad a bwyta allan.

 

Manteisiwch i'r eithaf ar ostyngiadau myfyrwyr

Mae yna lwyth o ostyngiadau y gallwch eu defnyddio mewn amryw o leoedd, o siopau trin gwallt i archfarchnadoedd. Mae Unidays a StudentBeans yn cynnig cannoedd o ostyngiadau gwych i arbed arian i chi, gan gynnwys ar frandiau fel Dominos, ASOS ac M&S.

Os ydych chi'n hoffi mynd allan i dafarndai a chlybiau, dewch o hyd i wybodaeth am wahanol nosweithiau myfyrwyr a chynigion “oriau hapus”.

 

Gwnewch gais am fyngherdynteithio

Mae fyngherdynteithio yn docyn bws sy'n cynnig teithiau bws rhatach i bobl 16 - 21 oed sy'n teithio yng Nghymru. Unwaith y bydd yn cyrraedd, gallwch gael tocynnau unffordd am £1 a thocynnau diwrnod am £3 yng Nghymru*.

 

Dewch yn gyfarwydd â’r bysiau

Efallai y bydd teithiau Uber yn rhywbeth moethus na fyddwch chi’n awyddus i wario llwyth o arian arno. Gyda chyflwyniad tocynnau bws £1, nawr yw'r adeg gorau i ymgyfarwyddo â’r gwahanol lwybrau bws. P'un a oes angen i chi deithio i ddarlith ben bore neu'r dafarn leol, bwriwch olwg ar yr amserlenni gwahanol yma.

 

Cymerwch ofal

Gall byw i ffwrdd o gartref fod yn gyffrous ond gallwch hefyd fod yn teimlo ychydig yn nerfus. Gwnewch yn siŵr eich bod yn neilltuo amser i ofalu amdanoch chi'ch hun. Sicrhewch eich bod yn cael rhywfaint o awyr iach bob dydd, bwytwch yn iach a siaradwch â rhywun os ydych chi'n cael trafferth.

 

Llwybrau allweddol ar gyfer prifysgolion yng Nghymru

T1 - Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

T2 a T5 - Prifysgol Aberystwyth

T2 a T10 - Prifysgol Bangor

T6 - Prifysgol Abertawe

T12 - Prifysgol Wrecsam