Pum taith gwych dros hanner tymor gyda TrawsCymru

2 flynedd yn ôl Tue 24th Oct 2023

Os ydych chi’n brin o syniadau i ddiddanu’r plant, rydyn ni wedi llunio rhestr o bum lleoliad gwych ar hyd rhwydwaith TrawsCymru i sicrhau bod y teulu cyfan yn cael diwrnod allan gwych!

Felly beth am adael y car adref yr hanner tymor hwn a gadael i ni wneud y gyrru ar eich rhan.

Parc Gwledig Loggerheads – T8

Cyfle i fentro ar ein gwasanaeth T8 a mynd â’r teulu ar daith o amgylch Parc Gwledig Loggerheads.

Roedd Loggerheads yn ardal lofaol bwysig ac mae’n gyfoethog o ran treftadaeth a harddwch. Mae tystiolaeth o’r gorffennol diwydiannol hwn yn dal i fod wedi’i guddio’n rhannol yn y coetir diddorol hwn.

Cewch grwydro’r parc yn rhad ac am ddim ac mae ganddo Lwybr Darganfod sydd wedi’i farcio’n dda a llwybrau hygyrch o amgylch y parc ac i’r bryniau a’r cymoedd y tu hwnt.

Ar ben hynny, bydd y gwasanaeth bws T8 yn eich gollwng y tu allan i’r fynedfa!

Mae rhagor o wybodaeth am amserlenni ar gael yma.

Scenic View of Loggerheads Country Park

Llun: Loggerheads Country Park

Canolfan Ogofâu Arddangos Cenedlaethol Cymru (Dan-yr-Ogof) – T6

Archwiliwch hud a harddwch un o systemau ogofâu mwyaf y DU.

Mae Dan-yr-Ogof yn 11 milltir anhygoel o hyd, ond peidiwch â phoeni, mae’r rhan fwyaf ohono wedi’i gadw i ogofäwyr profiadol.

Nid yw hynny’n golygu nad oes gan yr ogofâu olygfeydd anhygoel i'w cynnig.

Yn ogystal â hynny, gallwch deithio’n ôl mewn amser a cherdded ymysg dros 200 o fodelau deinosor maint go iawn, a threulio amser gyda rhai o’r creaduriaid a oedd yn crwydro’r byd filiynau o flynyddoedd yn ôl!

Bydd y bws T6 yn eich gollwng y tu allan i fynedfa’r ogofâu, sydd ond bum milltir i’r gogledd o Ystradgynlais.

Mae rhagor o wybodaeth am amserlenni ar gael yma.

Inside a cave at Dan yr Ogof Caves

Llun: Croeso Cymru

Sŵ Trofannol Plantasia, Abertawe – T6

Os yw’n hi’n bwrw glaw, beth am archwilio rhyfeddodau’r fforest law?

Mae Sw Trofannol Plantasia yn sw fforest law go iawn yng nghanol Dinas Abertawe – sy’n cynnwys yr unig brofiad bwydo Crocodeilod yng Nghymru!

Treuliwch y diwrnod gyda’r teulu wrth i chi gael cipolwg o fywyd yn y goedwig law, a dod wyneb yn wyneb â’r creaduriaid sy’n byw yn yr isdyfiant a’r canopïau.

Bydd bws T6 yn eich gollwng ger Sainsbury’s, dros y ffordd i fynediad y sw.

Mae rhagor o wybodaeth am amserlenni ar gael yma.

Platasia Tropicaal Zoo Logo

Llun: Sŵ Trofannol Plantasia, Abertawe

Canolfan Wyddoniaeth Techniquest, Bae Caerdydd – T4 / T1C

Gwisgwch eich cotiau gwyddoniaeth ac ewch am dro i Techniquest i gael gweld mwy na 100 o arddangosfeydd ymarferol!

O ddraig niwmatig enfawr eiconig i bosau swmpus, mae digon i ddiddanu pob oed.

Profwch y sêr fel nad ydych chi erioed wedi’u gweld o’r blaen yn y Planetariwm digidol anhygoel. Edrychwch ar yr awyr ar wahanol adegau o’r dydd ac ym mhob tywydd, a dysgu am y cytserau a rhai o’r mythau sy’n eu hamgylchynu.

Bydd y gwasanaeth bws T1C yn eich gollwng chi yng Nghei’r Fôr-forwyn, Bae Caerdydd – taith gerdded fer o Techniquest. Mae rhagor o wybodaeth am amserlenni ar gael yma.

Gallwch hefyd deithio ar fws T4 i Gaerdydd ac wedyn dal y BayCar i lawr i Techniquest. Mae rhagor o wybodaeth am amserlenni ar gael yma.

Entrance of Techniquest in Cardiff Bay

Llun: Croeso Cymru

Zip World, Chwarel y Penrhyn, Bethesda – T10

Cewch hedfan yn uchel uwchben tirwedd anhygoel Parc Cenedlaethol Eryri gyda diwrnod llawn adrenalin i’r teulu cyfan ar y gwifrau gwib!

Tra byddwch chi yno, beth am fynd ar daith o amgylch Chwarel hanesyddol Penrhyn a’i rôl bwysig yn y diwydiant cloddio llechi yng ngogledd Cymru.

Mae rhagor o wybodaeth am docynnau Zip World ar gael yma.

Mae’r gwasanaeth bws T10 yn eich gollwng yng nghanol Bethesda, lle mae taith gerdded fer i fyny i safle Zip World. Mae rhagor o wybodaeth am amserlenni ar gael yma.

 

Zip wire, Penrhyn Quarry, Bethesda

Llun: Croeso Cymru

Llwythwch ein ap TrawsCymru i lawr

Cofiwch lwytho ap TrawsCymru i lawr i gael yr holl wybodaeth ddiweddaraf am amserlenni, tocynnau, gwybodaeth am wasanaethau a chymorth i gynllunio eich taith gyda ni.

Byddwn hefyd yn rhoi gwybod i chi faint o allyriadau carbon y byddwch yn eu harbed drwy deithio gyda ni, yn hytrach na defnyddio’r car!