Ein hoff fannau prydferth cudd y dylech ymweld â hwy yr hanner tymor hwn
2 flynedd yn ôl
Bydd cyrchfannau twristaidd poblogaidd Cymru yn denu llawer iawn o dyrfaoedd yn ystod hanner tymor.
Ond os ydych chi'n awyddus i ddianc rhag y bwrlwm – dyma gynghorion gwerth chweil i chi.
Mae gan ein rhwydwaith TrawsCymru ddewis gwych o fannau prydferth cudd, gan sy'n cynnig digonedd o lonyddwch a phrydferthwch.
Dyma ein pum prif ddihangfa gudd – sy’n hygyrch ar wasanaethau TrawsCymru – y credwn sy’n werth eu gweld yr hanner tymor hwn.
Nyth yr Eryr, Cas-gwent – T7
Mae Dyffryn Gwy yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ac mae Nyth yr Eryr yn fan delfrydol i syllu ar y golygfeydd anhygoel islaw.
Daliwch y bws T7 i Gas-gwent a neidiwch ar fws 69 lleol i gyfeiriad Trefynwy. Dewch oddi oddi ar y bws yn y safle bws ar ôl maes parcio Wyndcliff Isaf.
Dychwelwch i faes parcio Wyndcliff Isaf ac fe welwch arwyddion am Nyth yr Eryr.
Bydd dipyn o waith cerdded egnïol yn eich hwynebu ond rydym yn addo, bydd pob cam yn werth yr ymdrech!
Mae amserlen T7 i'w gweld yma ac mae amserlen bws 69 i'w gweld yma.

Llun: Ymwelwch â Sir Fynwy
Fairy Glen – Betws-y-Coed – T10
Mae’r gornel fach glyd hon o Eryri dafliad carreg o bentref prysur Betws-y-Coed.
Mae afon Conwy yn llifo trwy'r ceunant diarffordd a hudolus hwn, sy'n gwneud i chi deimlo fel eich bod yn mynd i fyd arall pan fyddwch chi'n sefyll yng nghanol y cyfan.
Yn fwy na hynny, mae Fairy Glen hefyd yn safle bywyd gwyllt gwarchodedig.
Neidiwch oddi ar y gwasanaeth T10 ar safle bws Bron-haul – ychydig cyn bo'r A5 yn cwrdd â’r A470 i Fetws-y-Coed. Mae rhagor o wybodaeth am lwybrau ac amserlenni ar gael yma.
Mae llwybr troed yn arwain yn syth o'r safle bws i lawr at afon Conwy a'r Fairy Glen.

Llun: Daily Post
Carn Ingli, Casnewydd (Sir Benfro) – T5
Caiff ei adnabod fel Angel Mountain yn Saesneg, mae Carn Ingli yn safle llosgfynydd 450-miliwn oed a'r olion ar gaer o'r Oes Haearn.
Neidiwch oddi ar y T5 yng nghanol pentref Casnewydd, lle mae llwybr dwy filltir yn cychwyn tuag at y mynydd trawiadol. Mae ychydig yn serth mewn mannau ond mae golygfeydd gwych o'r brig o'r pentref islaw.
Mae amserlen T5 a map llwybr ar gael yma a gellir gweld map o'r llwybr cerdded yma.

Llun: Parc Cenedlaethol Sir Benfro
Hay Bluff – T14
Yn edrych dros dref hardd y Gelli Gandryll yng nghanolbarth Cymru, mae Hay Bluff yn opsiwn gwych os ydych chi am rannu eich diwrnod yn cerdded a phori ymysg y siopau ym mhrifddinas lyfrau Cymru.
Ar y ffin rhwng Swydd Henffordd a Phowys - mae'n lleoliad perffaith os ydych chi'n chwilio am olygfeydd anhygoel yr hanner tymor hwn.
Aiff y T14 â chi yn syth i ganol y dref lle byddwch yn gweld digon o arwyddbyst ar gyfer llwybr Clawdd Offa sy'n arwain i fyny tuag at Hay Bluff – mae mwy o wybodaeth ar gael yma.
Mae amserlen a map llwybr T14 ar gael yma.

Llun: Nick Stewart
Gwarchodfa Natur Ynys-hir – T2
Ynys-hir yw lle mae natur a llonyddwch yn ymuno mewn harmoni perffaith.
Wedi'i leoli ychydig y tu allan i brifddinas hynafol Cymru, Machynlleth, mae digon i'w fwynhau wrth i chi grwydro o amgylch y warchodfa coetir a gwlypdir - gan fwynhau rhai o'r gwahanol rywogaethau o adar sy'n galw'r lle hyfryd hwn yn gartref iddynt.
Crwydrwch ymhellach i wastadeddau llaid a morfa heli Aber Afon Dyfi.
Neidiwch oddi ar y T2 wrth safle bws London House yn Eglwys Fach cyn ymlwybro’n hamddenol i Eglwys Sant Mihangel – trowch i’r dde wrth y lôn ger yr eglwys tuag at y warchodfa natur.
Mae map ac amserlen bws T2 ar gael yma.

Llun: RSPB