Mis Dal y Bws 2026
Ddoe
Mis Dal y Bws yw hi y mis hwn; cyfle i ddathlu teithio ar y bws, pam ei bod mor bwysig a pham y dylech chi ddal y bws yn amlach.
Cymerwch ran ym Mis Dal y Bws
Oeddech chi'n gwybod mai bysiau yw'r math o drafnidiaeth gyhoeddus a ddefnyddir fwyaf ym Mhrydain, gydag ychydig dros 4 biliwn o deithiau'n cael eu gwneud bob blwyddyn?*
O deithio i'r ysgol neu'r gwaith, i ddal y bws am ddiwrnod allan gyda ffrindiau; mae teithio ar y bws yn rhan annatod o’n bywydau bob dydd. Dyma sut allwch chi gymryd rhan ym Mis Dal y Bws gyda TrawsCymru.
Arbedwch arian drwy ddefnyddio'ch tocyn bws ar gyfer atyniadau yng Nghymru
Ar gyfer Mis Dal y Bws, rydym wedi ymuno â Cadw fel y gallwch gael 2 docyn mynediad am bris 1 ar gyfer safleoedd hanesyddol ar hyd llwybr TrawsCymru T2.
Tan 30 Medi 2026, gallwch gael mynediad am bris gostyngol i Gastell Caernarfon a Chastell Cricieth gyda'ch tocyn bws TrawsCymru. Mwynhewch ddiwrnod allan rhatach, darganfyddwch fwy am hanes Cymru a theithiwch ar y bws; dysgwch ragor am y cynnig yma.
Gallwch hefyd arbed arian gan ddefnyddio'ch tocyn bws TrawsCymru wrth ymweld ag atyniadau eraill, fel Plantasia yn Abertawe a Rheilffordd Cwm Rheidol yn Aberystwyth.
Cael 50% oddi ar eich tocyn ap cyntaf
Rydym yn cynnig gostyngiad o 50% ar eich tocyn ap TrawsCymru cyntaf y Mis Dal y Bws hwn. Boed chi'n teithio i'r gwaith yn lleol neu'n mynd allan gyda'r nos gyda'ch cymar, gallwch arbed arian gydag ap TrawsCymru. Defnyddiwch y cod disgownt CTBM2026; darllen rhagor yma.
Darganfyddwch drysorau cudd yng Nghymru
Ar draws Cymru ac ar garreg eich drws, mae yna drysorau cudd y gallwch eu darganfod ar y bws. O gaerau Normanaidd a thraethau Baner Las i fwytai arobryn a phrofiadau bwydo crocodeiliaid, mae antur at ddant pawb.
Chwilio am ysbrydoliaeth ar ble i archwilio? Teithiwch ar hyd arfordir Gorllewin Cymru am £6.50 gyda'n tocyn diwrnod TrawsCambria.
Manteision teithio ar y bws
P'un a ydych chi'n gymudwr rheolaidd neu os hoffech chi gerdded mwy o gamau y mis hwn, nawr yw'r adeg berffaith i ddal y bws. Dyma rai manteision allweddol:
Champion sustainability
Mae dal y bws yn un o'r ffyrdd mwyaf gwyrdd o deithio. O leihau llygredd a tagfeydd i leddfu prysurdeb canol ein dinasoedd, mae cynaliadwyedd wrth wraidd teithio ar y bws.
Hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol
Mae bysiau'n cysylltu pobl â lleoedd gwaith, addysg, iechyd, ffrindiau a theulu. P'un a ydych chi'n dal y bws i fynd i'r coleg neu'ch campfa leol, mae teithio ar y bws yn gwella bywydau ac yn cynnig cyfleoedd.
Hybu’r economi
Mae teithwyr bws yn cyfrannu bron i £40 biliwn bob blwyddyn i economïau lleol. * O’r miloedd o weithwyr bysiau i’r miliynau o deithwyr - mae teithio ar y bws yn helpu busnesau i dyfu ac mae cymunedau lleol yn ffynnu.
Hyrwyddo gweithgarwch corfforol
Oeddech chi'n gwybod bod defnyddwyr bysiau yn gwneud o leiaf 20 munud o ymarfer corff y dydd?*
Gall teithio ar y bws fynd law yn llaw â theithio llesol. Gall hyd yn oed cerdded i'r safle bws ac yn ôl roi ymarfer corff dyddiol i chi a lleihau’r amser rydych chi’n ei dreulio yn eistedd.
I ddysgu rhagor am Fis Dal y Bws, cliciwch yma.
*Ffynhonnell - Defnyddwyr Bysiau