Sut i dreulio 24 awr yng ngorllewin Cymru am £6.50 gyda TrawsCambria
Heddiw
Angen ysbrydoliaeth ar gyfer lleoedd i ymweld â nhw yng ngorllewin Cymru? Mae ein tîm wedi gwneud yr ymchwil, felly does dim rhaid i chi. Archwiliodd Carys a Beth o dîm TrawsCymru orllewin Cymru gan ddefnyddio ein tocyn diwrnod TrawsCambria. Mae'r tocyn yn cynnig teithio diderfyn am 24 awr trwy docynnau ar yr ap neu deithiau tan ddiwedd y dydd os caiff y tocyn ei brynu ar y trên.
Gyda theithio diderfyn ar y bws am 24 awr, fe wnaethon nhw ddarganfod teithiau cerdded ar hyd yr arfordir, trysorau cudd, golygfeydd o'r môr a mwy. Darllenwch ymlaen i ddysgu mwy am leoedd i ymweld â nhw yng ngorllewin Cymru am gyn lleied â £6.50.
Aberystwyth
Dechreuon ni ein taith yn Aberystwyth, sy’n debyg i lun cerdyn post o wyliau glan môr clasurol. Dychmygwch bromenâd Fictoraidd, golygfeydd o’r traeth, pysgod a sglodion, hufen iâ; i gyd o fewn munudau i orsaf fysiau Aberystwyth. Yn gartref i atyniadau eiconig fel Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Rheilffordd Cwm Rheidiol, mae digon i’ch diddanu yn y dref arfordirol hon. Mae gan Aberystwyth hefyd ei llên gwerin ei hun yn ymwneud â thafarndai gan yr ystyrir mai dyma’r man sydd â’r nifer fwyaf o dafarndai fesul milltir sgwâr yn y DU. Gyda 24 awr ar y cloc, bu’n rhaid gohirio’r antur benodol honno tan ein hymweliad nesaf. Ar ôl tro ar hyd y promenâd a chyfle i grwydro o amgylch y dref, roedd hi’n bryd neidio ar y bws nesaf.
Yn ogystal â sîn dafarndai brysur, mae gan Aberystwyth sîn brysur (neu bys-ur!) o ran gwasanaethau bws. Mae gwasanaethau T1, T2/T28 a T5 TrawsCymru i gyd yn galw yn yr orsaf fysiau, felly fe wnaethon ni neidio ar y T1 i'n harhosfan nesaf: Aberaeron.
Aberaeron
Mae’r golygfeydd godidog ar hyd llwybr yr arfordir o Aberystwyth i Aberaeron yn ddigon i wneud y daith werth chweil. Golygfeydd o’r môr disglair, y bryniau tonnog, yr arfordir creigiog; pa gyfeiriad bynnag yr edrychwch, cewch eich plesio gan natur amrywiol Cymru.
Yn adnabyddus am ei harbwr lliwgar, mae Aberaeron yn lle perffaith i gael seibiant bach. Mae'r Hive eiconig, sy'n enwog am eu hufen iâ mêl, ond 5 munud ar droed o'r safle bws. Ar ôl taith gerdded o amgylch yr harbwr gyda'n hufen iâ, aethom i Driftwood Designs i fachu anrheg arfordirol. Pe baem yn aros am ginio, byddai Y Seler wedi ein temtio. Gyda golygfeydd hardd o'r harbwr, enillodd y bwyty lleol wobr Bwyty Traddodiadol y Flwyddyn yn ddiweddar. Gyda'r prynhawn ar ei anterth, aethom i'r safle bws i ddal y T5 i'n cyrchfan nesaf.
Cei Newydd
Mae wir gennym ni ddigonedd o ddewis o leoedd prydferth i ymweld â nhw yng ngorllewin Cymru. Aeth y T5 â ni’n syth i’r hyn a enwyd yn ddiweddar yn bentref arfordirol harddaf y DU: Cei Newydd.
Yn adnabyddus am ddolffiniaid trwyn potel, golygfeydd godidog a hanes cyfoethog Dylan Thomas, mae Cei Newydd, sy’n fach ond yn arbennig tu hwnt, yn rhywle na fyddwch chi eisiau ei adael. O fynd ar daith ar gwch i weld dolffiniaid a bwyta pysgod a sglodion enwog i ymlwybro o un bar i’r nesaf a mwynhau teithiau cerdded arfordirol, dyma’r lle delfrydol ar gyfer gwyliau ar yr arfordir. Fe wnaethon ni benderfynu yfed coffi bach gyda golygfeydd o'r harbwr yn y Bluebell, cyn ein bws olaf o'r dydd.
Aberporth
Ar ôl diwrnod hir o deithio ac archwilio, Aberporth oedd y lle perffaith i ymlacio. Mae’r bws T5 yn stopio ychydig funudau o'r traeth; eisteddwch yn ôl ar fainc, mwynhewch y golygfeydd a gwrandewch ar y tonnau. Am ginio gyda golygfa, aethom i dafarn The Ship a mwynhau'r tagliatelle berdys a'r stêc.
Taith gerdded foreol ar y traeth yn Aberporth – pa ffordd well o ddechrau’r diwrnod? Ar ôl treulio’r noson yma, fe wnaethon ni fwynhau ein hamgylchoedd prydferth cyn dal ein bws nesaf. Gyda Llwybr Arfordir Cymru ar garreg ein drws, fe wnaethon ni gynyddu ein camau ac edmygu’r golygfeydd godidog o’r môr. Gan ddefnyddio ein tocyn TrawsCambria 24 awr, fe wnaethon ni ddal y T5 i ymweld â’r lle olaf yng ngorllewin Cymru ar ein rhestr.
Aberteifi
Pwy fyddai wedi meddwl y gallai bore tawel yn Aberteifi fod mor heddychlon? Yng nghwmni llif Afon Teifi, fe grwydron ni ar hyd y llwybr cyn archwilio Marchnad Neuadd y Dref Aberteifi. Roedd caffi eiconig Crwst, a enillodd wobr ar gyfer Cynhyrchydd Bwyd a Diod Crefftus yng Ngwobrau Muddy Stiletto 2026, yn lle gwych i gael brecwast. Ar ôl rhoi cynnig ar eu bynsen sinamon a’u focaccia, rydym yn cytuno.
5 lle i ymweld â nhw yng ngorllewin Cymru mewn 24 awr, a phob un yn bosibl gyda thocyn diwrnod TrawsCambria. Er mai megis dechrau crafu wyneb y cyrchfannau prydferth hyn yr oeddem ar ôl 24 awr, mae TrawsCambria yn cynnig cyfleoedd di-ben-draw i archwilio mwy. Teithiau cerdded Llwybr Arfordir Cymru yn Aberporth, gwyliau dros benwythnos yng Nghei Newydd, teithiau diwrnod i Aberystwyth; mae’r anturiaethau wrth eich traed.
I ble fydd tocyn TrawsCambria yn mynd â chi? Dechreuwch gynllunio eich antur yng ngorllewin Cymru yma.
Yn ddilys ar wasanaethau T1, T2/T28, T3/T3C a T5 rhwng Aberteifi a’r Bermo:
T1 rhwng Aberystwyth ac Aberaeron
T2 / T28 rhwng Dolgellau ac Aberystwyth
T3 / T3C rhwng Y Bermo a Dolgellau
T5 rhwng Aberystwyth ac Aberteifi