Arbedwch 50% oddi ar eich tocyn ap cyntaf fis Medi

Ddoe Tue 1st Sep 2026

TrawsCymru T10 in North Wales

FO gwpan o goffi rhewllyd yn y bore i docyn sinema, defnyddiwch ein cod disgownt i arbed arian y gallwch ei wario arnoch chi'ch hun. 

Yn ystod y Mis Dal y Bws hwn, rydyn ni'n cynnig 50% oddi ar y pris tocynnau ar yr ap* gyda'n cod disgownt, CTBM2026. Mae TrawsCymru yn cynnig ffordd gynaliadwy a fforddiadwy o deithio ar fws, p'un a ydych yn cymudo i'r gwaith neu'n teithio ar gyfer diwrnod allan.

Mae defnyddio ein ap TrawsCymru yn ffordd wych i'ch helpu i deithio ar y bws. Mae ein ap yn siop un stop ar gyfer pob peth sy'n ymwneud a theithio ar fws, gan ddarparu rhybuddion teithio wedi'u personoli, cynllunio teithiau, gwybodaeth am amseroedd gadael byw a mwy.

Yn awyddus i arbed mwy o arian gyda TrawsCymru? Darganfyddwch ble y gallwch gael gostyngiadau ar bris atyniadau yn ystod y Mis Dal y Bws hwn yma.

 

Dilynwch y camau syml hyn i gael gostyngiad o 50%:

Camau i lawrlwytho yr ap a phrynu tocyn.

Cam 1 - Chwiliwch am ap TrawsCymru ar App Store neu Google Play.

Cam 2 - Lanlwytho'r ap ar eich ffon a chreu cyfrif.

Cam 3 - Cliciwch y tair llinell ar y gornel chwith uchaf a dewis ‘Tocynnau symudol’.

Cam 4 - Dewiswch y llwybr rydych chi am deithio ar ei hyd.

Cam 5 - Dewiswch docyn cymwys a chliciwch ‘prynu nawr’.

Cam 6 - Sicrhewch fod y tocyn yn addas i'ch anghenion chi. Os yw'n addas, cliciwch ar y botwm ‘talu’.

Cam 7 - Ychwanegwch fanylion eich cerdyn.

Cam 8 - Rhowch yr ymadrodd ‘CTBM2026’ yn y blwch testun a chliciwch ‘Apply’.

Cam 9 - Parhau i brynu tocyn.

Cam 10 - Bydd tocynnau'n ymddangos yn yr adran tocynnau symudol.  Ewch ati i ddilysu eich tocyn ychydig cyn yr amser teithio drwy sganio'r cod QR ar y peiriant tocynnau ar y bws.

Cam 11 - Mwynhewch deithio gyda TrawsCymru.

 

T+Aau

  • Yn ddilys gyda rhai tocynnau ap a restrir isod*
  • Ar gael wrth brynu eich cyntaf yn unig.
  • Cod disgownt yn ddilys rhwng 00:00 1 Medi - 23:59 30 Medi.
  • Un tocyn gostyngol fesul cyfrif.
  • Rydym yn cadw'r hawl i dynnu'r cynnig hwn yn ôl ar unrhyw adeg.
  • Ni ellir ei ddefnyddio ar y cyd ag unrhyw gynnig arall.
  • Rhaid prynu tocyn ar yr ap cyn teithio.
  • Sicrhewch fod y tocyn yn ddilys cyn prynu. Rhaid i docynnau gael eu gweithredu o fewn yr amserlen a nodir yn nisgrifiad y tocyn.
  • O'i ddilysu, bydd y tocynnau'n ddilys am gyfnod penodol yn unig.

Mae ad-daliadau yn ddibynnol ar delerau ac amodau tocynnau ap arferol, a dim ond un waith fydd modd defnyddio'r cod disgownt.

 

Tocynnau ap a ddewiswyd

Tocyn diwrnod oedolyn T1C

TrawsCymru - 24 awr

Bwndel TrawsCymru

Diwrnod TrawsCambria

Diwrnod Aberystwyth - Aberaeron

Wythnos TrawsCymru

1bws dydd

1bws yr wythnos

1bws teulu

Tocyn Powys Rover

Parth Gogledd Powys

Parth Canol Powys

Parth De Powys