Y lleoedd gorau i fwyta yng Ngorllewin Cymru
Ddoe
Chwilio am leoedd i fwyta yng ngorllewin Cymru? Neidiwch ar y T5 a dechreuwch eich canllaw bwyd o arfordir gorllewin Cymru.
Yn ôl Gwobrau Bwytai Cymru, Gorllewin Cymru yw'r lle i fod os ydych chi ar drywydd bwyd ffres a blasus. O ddraenog y môr arobryn i basta â chorgimychiaid newydd eu dal, ni chewch eich siomi. Dyma 3 lle i fwyta yng Ngorllewin Cymru a gafodd eu cydnabod yng Ngwobrau Bwytai Cymru eleni. A’r newyddion gwell fyth? Maen nhw i gyd o fewn 5 munud o waith cerdded i safle bws T5.
Y Seler, Aberaeron
Enillodd Y Seler yn Aberaeron wobr Bwyty Traddodiadol y Flwyddyn yng Nghymru. Yn edrych dros harbwr lliwgar Aberaeron, mae’r Seler yn boblogaidd gyda phobl leol a thwristiaid fel ei gilydd. Gan hyrwyddo bwyd Cymreig wedi'i drwytho â blasau Môr y Canoldir, mae'r fwydlen yn cynnig bwyd môr ffres, cynnyrch lleol a seigiau tymhorol. Ymhlith y goreuon mae cregyn bylchog wedi'u serio, moules marinière a ffolen cig oen Cymreig ond fe welwch chi dapas, byrgyrs a brechdanau ar y fwydlen hefyd. Yn goron ar y cyfan, gallwch chi fwynhau'ch pryd ar y teras â golygfeydd hardd o'r harbwr. Gyda gorsaf y T5 3 munud ar droed o fwyty’r Seler, rhaid i'r lle hwn fod ar eich rhestr o leoedd i fwyta yng Ngorllewin Cymru.
Safle T5 agosaf: Aberaeron, Sgwâr Alban/Alban Square 3 (o/s)
Yr Hen Printworks, Aberteifi
Bwyty Cymreig/Prydeinig buddugol y flwyddyn oedd Yr Hen Printworks. Mae hwn, sydd eisoes wedi'i gynnwys yn y Canllaw Michelin, yn fwyty y mae'n rhaid ymweld ag ef wrth chwilio am leoedd i fwyta yng Ngorllewin Cymru.
Wedi'i leoli mewn hen weithfeydd printio wedi'u hadnewyddu, mae’r Hen Printworks yn cynnig awyrgylch rystig a chlyd. Mae'r bwyty'n ymfalchïo mewn cynnyrch lleol; o'r wystrys i’r asen fer, mae gan bob saig darddiad lleol. Disgwyliwch fwyd Cymreig clasurol fel rarebit Cymreig a phlatiau bach yn debyg i dapas fel y ffriter penfras â chyri poblogaidd. Mae'n hawdd gweld pam fod Yr Hen Printworks yn ffefryn yn Aberteifi a pham ei fod yn un o'r lleoedd gorau i fwyta yng Ngorllewin Cymru.
Safle T5 agosaf: Aberteifi / Cardigan, Sgwâr Finch / Finch's Square C (o/s)
The Ship Inn, Aberporth
Derbyniodd y Ship Inn wobr Llwyddiant Rhagorol (yn y categori ‘Bar and Grill’), ac nid yw'n anodd gweld pam. Gyda golygfeydd prydferth o'r môr, dyma'r lle perffaith i fwynhau pryd o fwyd gyda'r nos ar ôl diwrnod o gerdded ar hyd yr arfordir.
Tafarn leol yn Aberporth yw The Ship Inn, sydd wedi gwneud enw iddi’i hun gyda’r gymuned leol a phobl sy’n ymweld yn rheolaidd am reswm da iawn. O’u brechdan stêc boblogaidd i’r tagliatelle â chorgimychiaid, gallwch ddisgwyl seigiau tafarn clasurol yn cael eu gweini ag awyrgylch croesawgar, teuluol. Ymlaciwch ar lawr isaf, clyd y dafarn neu mwynhewch olygfeydd tawel y bae o’r bwyty ar y llawr uchaf.
Safle T5 agosaf: Capel Rhiw y Plas Chapel (o/s)
Ar hyd arfordir bach ond hynod arbennig Gorllewin Cymru, mae gennych chi ddigonedd o ddewis o fwytai a lleoedd bwyta arobryn. Mae nawr yn amser gwell nag erioed i ddechrau cynllunio eich taith fwyd ar y bws T5 - cynlluniwch eich taith yma.