Pedair taith gerdded pert y gallwch eu cyrraedd gyda'r T5
1 mis yn ôl
Ceisio cynyddu eich camau? Am fod yn yr awyr agored yn fwyfwy yn y tywydd cynhesach? Mis Cerdded Cenedlaethol yw eich cyfle perffaith, a ble gwell i ddechrau na Llwybr Arfordir Cymru? Mae ein bws T5 yn dilyn Llwybr Arfordir Cymru ar hyd arfordiroedd Sir Benfro a Cheredigion, y ffordd berffaith o anturio’n gynaliadwy.
Yng Nghymru, mae Mis Cerdded Cenedlaethol yn cydfynd yn berffaith â theithio ar fws. Archwiliwch Sir Benfro a Cheredigion heb orfod poeni am barcio, ffioedd maes parcio na gyrru rhywle nad ydych chi'n gyfarwydd.
Cynlluniwch eich taith ar hyd Llwybr Arfordir Cymru gyda'r T5, lle gallwch deithio o Hwlffordd i Aberystwyth.
O olygfeydd clogwyni Pen Dinas, Sir Benfro i hanes Dylan Thomas yng Nghei Newydd, archwiliwch Lwybr Arfordir Cymru gyda'r T5. P'un a ydych chi am daith gerdded syml neu daith heriol, mae yna rywbeth at ddant pawb.
Dyma bedair taith gerdded olygfaol ar hyd Llwybr Arfordir Cymru y gallwch roi cynnig arnynt y Mis Cerdded Cenedlaethol hwn.
Cei Newydd i Aberaeron
Taith gerdded 6.5 milltir
Mwynhewch nid un ond dwy dref liwgar pan fyddwch chi'n cerdded o Aberaeron i Gei Newydd ar hyd Llwybr Arfordir Cymru.
Gall y daith gerdded hon gymryd rhwng 3 a 4 awr – neu’n hirach os ydych chi’n tynnu lluniau o'r holl golygfeydd! Mwynhewch harbwr Aberaeron wrth i chi ddechrau’r daith wedi'ch amgylchynu gan gychod ac adeiladau lliwgar. Allan o Aberaeron; cerddwch drwy'r blodau gwyllt sydd wedi'u gwasgaru ar hyd y llwybr, o glychau'r gog i degeirianau a briallu.
Mae'r llwybr arfordirol yn arwain at y traeth, lle cewch eich cyfarch gan olygfeydd hardd Cei Newydd. Sicrhewch eich bod yn gwirio amseroedd llanw fel eich bod chi'n gallu cael mynediad i'r daith gerdded ar hyd y traeth.
Unwaith y byddwch chi'n cyrraedd Cei Newydd, mwynhewch pysgod a sglodion haeddiannol wrth yr harbwr, a cheisiwch dod o hyd i ddolffiniaid ar y don! Yna neidiwch yn ol ar y T5 yn ôl i Aberaeron.
Cei Newydd
Taith gerdded 3 milltir
Ydych chi'n awyddus i archwilio mwy o Gei Newydd ar hyd Llwybr Arfordir Cymru? Beth am roi cynnig ar daith gerdded fyrrach i fwynhau hanes y dref?
Mae'r daith gerdded yn 3 milltir, ac mae'n cymryd rhwng 1 a 2 awr i'w chwblhau yn dibynnu ar eich cyflymder. Yn berffaith ar gyfer diwrnod tawel, mae cerdded Llwybr Arfordir Cymru yng Nghei Newydd yn rhoi amser i chi fwynhau hynodweddau y dref.
Dechreuwch y daith gerdded wrth wal yr harbwr dwyreiniol, sy'n eich arwain at banel llwybr yr arfordirol. Cerddwch yn ôl troed Dylan Thomas drwy'r dref glan môr a ysbrydolodd 'Dan Y Wenallt'. Cadwch lygad wrth i chi grwydro ar hyd arfordir Bae Ceredigion am fordwrch harbwr.
Abergwaun i Drefdraeth
Taith gerdded 7-8 milltir
Am olygfeydd garw a llwybrau ar ben clogwyni y Mis Cerdded Cenedlaethol hwn, rhowch gynnig ar Abergwaun i Drefdraeth.
Mae Abergwaun swynol yn ganolfan ganolog wych ar gyfer Llwybr Arfordir Cymru yn Sir Benfro. Mae'r darn werth chweil hon yn cynnig clogwyni dramatig a golygfeydd ysgubol ar draws Bae Ceredigion, wedi'i amgylchynu gan fywyd gwyllt. Perffaith ar gyfer ffotograffiaeth arfordirol, gallwch geisio cildraethau diarffordd a thraethau tywodlyd.
Am daith gerdded hirach gyda golygfeydd mwy prydferth, ymestynnwch eich taith gerdded trwy Ben Dinas eiconig Sir Benfro. Dyma un o benrhynnau fwyaf ffotogenig arfordir Sir Benfro; mae'r clogwyni uchel a ffurfiwyd yn ystod Oes yr Iâ yn cynnig golygfeydd syfrdanol a'r cyfle i weld amrywiaeth o adar.
Gyda chymorth ein gwasanaeth T5 bob awr, mae eich taith gerdded yn cael ei gwneud yn fwy llyfn gydag arosfannau bysiau cyfleus yn Abergwaun a Threfdraeth.
Aberteifi i Aberporth
Taith gerdded 11.7 milltir
Na anghofer ystyried Aberteifi i Aberporth, taith arfordirol hirach lle byddwch chi'n elwa o olygfeydd a hanes.
Yn adnabyddus fel y 'Porth i Gymru', Aberteifi yw lle mae llwybrau Arfordirol Ceredigion a Sir Benfro yn cwrdd. Mae tir fferm, llwybrau glan yr afon a chlogwyni oll yn rhan o'r daith gerdded hon, lle gallwch fwynhau golygfeydd dros Fae Ceredigion ym Mhen Cemaes.
Mae gan Aberporth draethau tywodlyd sy'n berffaith ar gyfer nofio, ac mae’n llawn hanes morwrol sy'n dyddio'n ôl i'r 16eg ganrif. Mwynhewch bryd o fwyd tafarn pan fyddwch chi'n cyrraedd – mae tafarn y ‘Ship Inn’ yn cynnig prydau wedi'u coginio'n ffres sy'n edrych dros olygfeydd o'r môr.
Gan stopio yn Aberteifi ac Aberporth, ein gwasanaeth T5 yw'r ffordd berffaith o gefnogi eich taith gerdded arfordirol.
Mae gorllewin Cymru yn un o nifer o rannau hardd o Lwybr Arfordir Cymru y gallwch eu harchwilio yn ystod Mis Cerdded Cenedlaethol. Mae defnyddio ein gwasanaeth bws T5 yn golygu y gallwch archwilio heb gar, a dathlu Mis Cerdded Cenedlaethol yn gynaliadwy.
Cynlluniwch eich taith drwy Orllewin Cymru yma.