Dathlu Mis Cerdded Cenedlaethol gyda TrawsCymru

1 mis yn ôl Fri 2nd May 2025

Celebrate National Walking Month with TrawsCymru

Mis Mai yw Mis Cerdded Cenedlaethol, amser i groesawu’r gorfoledd o gerdded a mwynhau’r manteision i'n hiechyd meddwl a chorfforol. P'un a ydych chi'n gerddwr profiadol neu'n ceisio cynyddu’r nifer o gamau rydych chi’n eu cymryd bob dydd, nawr yw'r amser perffaith i grwydro.

Mae TrawsCymru yn cynnig ffordd hawdd a chyfleus o gyfuno cerdded a theithio cynaliadwy. Mae ein rhwydwaith bysiau yn eich cysylltu â rhai o gyrchfannau cerdded mwyaf poblogaidd Cymru.

I'r rhai sy'n dyheu am goncro Pen y Fan, y copa uchaf yn y Bannau Brycheiniog, mae'r llwybr T4 yn cynnig ffordd o gyrraedd yn ddi-dor. Gall cerddwyr a’r rheiny sy’n frwd dros natur fwynhau golygfeydd godidog o'r copa, gan ei gwneud yn daith y dylai fod ar restr gerdded pob un sy’n dwlu ar yr awyr agored. Yn yr un modd, mae Parc Cenedlaethol Eryri (Eryri) – sy'n enwog am ei dir garw, ei ddyffrynnoedd rhewlifol a'i gopaon uchel – yn cael ei wasanaethu'n dda gan sawl llwybr TrawsCymru, gan gynnwys gwasanaethau T10, T22, T2, a T3. Yn ogystal â hynny, mae modd cysylltu â gwasanaethau trên, bws Sherpa'r Wyddfa a gwasanaethau fflecsi sy’n mynd â chi i galon y Parc Cenedlaethol heb yr angen am gar.

Bydd y rhai sy'n hoff o hanes a cherddwyr brwd fel ei gilydd yn gwerthfawrogi'r rhwyddineb o gyrraedd Clawdd Offa, y priddwaith hynafol ar hyd y ffin rhwng Lloegr a Chymru. Gyda gwasanaethau fel T14, T12, T3, a T8, gall ymwelwyr ymgolli mewn hanes tra’n croesi’r cefn gwlad syfrdanol. Yn y cyfamser, mae modd cyrraedd Llwybr Arfordir Cymru gan ddefnyddio bron pob llwybr TrawsCymru – ac eithrio X43, 460, a T14 – wrth iddo gynnig golygfeydd heb eu hail a chyfleoedd i archwilio pentrefi glan môr ar hyd y ffordd.

Ar gyfer cyrchfannau sydd ychydig yn ddiarffordd ac ymhellach i ffwrdd o safleoedd bws TrawsCymru, mae gwasanaethau fflecsi yn cynnig ffordd gyfleus a hyblyg o deithio. Gyda fflecsi, mae gennych y rhyddid i gynllunio'ch taith yn ôl eich anghenion personol, gan sicrhau y gallwch gael mynediad hyd yn oed at y lleoliadau mwyaf anghysbell yn ddigon rhwydd. Ffoniwch neu defnyddiwch yr ap i archebu a dewis eich mannau codi a gollwng. I ddarganfod mwy am ble mae ein gwasanaeth fflecsi yn gweithredu, neu i archebu bws, ewch i'n gwefan neu lawrlwythwch yr ap.

Ydych chi’n barod i archwilio? Cynlluniwch eich taith yma.