Newidiadau i amserlen y gaeaf

7 mis yn ôl Fri 31st Oct 2025

Newidiadau i amserlen y gaeaf

Wrth i ni agosáu at dymor y gaeaf, byddwn yn newid rhai o'n gwasanaethau T10 i gyd-fynd yn well a gofynion ein teithwyr yn ystod misoedd y gaeaf. Mae'r addasiadau tymhorol hyn i'n hamserlenni yn ein helpu i gydbwyso lefelau gwasanaeth â galw teithwyr, gan sicrhau bod adnoddau'n cael eu defnyddio'n effeithlon wrth i ni gynnal cysylltiadau dibynadwy i'n teithwyr. 

O ddydd Llun 3 Tachwedd bydd y newidiadau canlynol yn cael eu gweithredu:

T10 (Bangor - Betws-y-Coed - Corwen)

Dydd Llun i ddydd Gwener - Dim newid

Dydd Sadwrn - Bydd amlder yn cael ei leihau i bob dwy awr. Bydd teithiau byr rhwng Bangor a Betws-y-Coed yn dod i ben dros y gaeaf. 

Dydd Sul a gwyliau cyhoeddus - bydd yr amserlen yn cael ei lleihau i dair taith ddwyffordd. 

Mae amserlen ddiweddaraf y gaeaf y gwasanaeth T10 ar gael yma: T10 - Bangor - Corwen