Pethau i’w gwneud yng Nghymru dros hanner tymor yr Hydref

Heddiw Wed 21st Oct 2026

T4 in Builth Wells

A oes angen ysbrydoliaeth arnoch ar gyfer pethau i’w gwneud dros wyliau’r hanner tymor yng Nghymru? O lwybrau Calan Gaeaf i gestyll arswydus a theithiau i’r sinema, rydyn ni wedi canfod rhai o weithgareddau hanner tymor yr Hydref gorau yng Nghymru y gellir eu cyrraedd ar fws. Teithiwch o gwmpas gyda TrawsCymru a mwynhewch ddiwrnodau allan gyda’r teulu sy’n fforddiadwy gyda thocynnau unffordd am £1 a thocynnau diwrnod am £3 ar gyfer unigolion rhwng 5 a 21 oed.

Aberystwyth beach

Gweithgareddau Hanner Tymor yn Aberystwyth - T1, T2/T28, T5

Canolfan y Celfyddydau

Mae yna ddigonedd o bethau i’w gwneud dros wyliau’r hanner tymor yng Nghanolfan y Celfyddydau a fydd yn diddanu’r teulu:

  • Dydd Sadwrn 10 - dydd Sadwrn 31 Hydref - ‘Shaun The Sheep: The Beast Of Mossy Bottom’
  • Dydd Iau 29 Hydref - ‘Halloween Bedazzling Workshop’
  • Dydd Gwener 23 - dydd Sadwrn 31 Hydref - ‘Ghosts: The Possession of Button House’
  • Dydd Sadwrn 31 Hydref - ‘The Utterly Revolting Science Show’

Rheilffordd Cwm Rheidol

Wyddoch chi y gallwch gael 10% oddi ar fynediad i Reilffordd Cwm Rheidol gyda’ch tocyn bws TrawsCymru?

Mae’r atyniad hwn yn un o’n partneriaid ‘Diwrnodau Allan’, sy’n meddwl y gallwch fwynhau diwrnod allan sy’n rhatach gan deithio mewn ffordd gynaliadwy, hefyd.

Neidiwch ar y rheilffordd gul, mwynhewch ei hanes cyfoethog gan brofi’r golygfeydd rhyfeddol o gefn gwlad Cymru.

National Library of Wales

Dirgelwch y Gath Ddu, Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Dydd Sadwrn, 31 Hydref 2026

Mwynhewch sesiwn Galan Gaeaf rhyngweithiol a hwyl yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae’r sesiwn yn cyfuno straeon, cerddoriaeth a symudiad, gan greu awyrgylch Calan Gaeaf llawn hud a lledrith.

 

Trenau Calan Gaeaf yn Rheilffordd Llyn Tegid - T3/T3C

Dydd Gwener 30 a dydd Sadwrn 31 Hydref 2026

Mwynhewch Galan Gaeaf llawn arswyd dros hanner tymor yr Hydref ar drên Calan Gaeaf. Teithiwch ar hyd y rheilffordd lle byddwch yn stopio yn Arhosfan Glanllyn (Flag) llawn ysbrydion a thŷ’r gwrachod. Cadwch lygad allan am ysbrydion a chythreuliaid!

 

Brecon

Digwyddiadau Hanner Tymor yn Aberhonddu - T4, T6

Argoed Lwyd

Am hwyl a sbri i’r teulu yn yr awyr agored, ewch i Argoed Lwyd. O saethyddiaeth i ogofa, mae yna andros o bethau hwyl i’r holl deulu eu gwneud dros wyliau’r hanner tymor. Maent hefyd yn cynnal sesiynau Light Up Canoe gyda’r nos.

Dydd Llun 26 Hydref

Sesiwn Blasu Saethyddiaeth, Sesiwn Blasu Ogofa a ‘Light Up Canoeing’

Dydd Mawrth 27 Hydref

Sesiwn Blasu Canwio a ‘Light Up Canoeing’

Dydd Mercher 28 Hydref

Sesiwn Blasu Saethyddiaeth, Sesiwn Blasu Ogofa a ‘Light Up Canoeing’

Dydd Iau 29 Hydref

Sesiwn Blasu Canwio a ‘Light Up Canoeing’

Dydd Gwener 30 Hydref

Sesiwn Blasu Canwio

Y Gaer

A oes rhywun yn eich teulu yn dwlu ar Lego? Ewch i glwb Lego rhad ac am ddim y Gaer bob dydd Mercher o 16:00 - 18:00.

 

Caernarfon Castle

Diwrnodau allan i’r teulu yng Nghaernarfon - T2/T28

Castell Caernarfon, dydd Sadwrn 31 Hydref - dydd Sul 4 Tachwedd 

I fwynhau gwir ysbryd Calan Gaeaf yr hanner tymor hwn, ymwelwch â Helfa Hwyl Calan Gaeaf yng Nghastell Caernarfon. Ewch i mewn i’r castell arswydus, dewch o hyd i’r pedwar preswylydd mwyaf ofnus, a cheisiwch ddatrys y pos.

Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri, ‘Y Trên Brawychus’. Dydd Mercher 28 - dydd Sadwrn 31 Hydref 2026

Profwch drên newydd sbon Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri, ‘Y Trên Brawychus’. Mwynhewch noson o anturiaethau arswydus o Gaernarfon i Ddinas a gweithgareddau arswydus yng ngorsaf drenau Caernarfon.

Peidiwch ag anghofio wisgo’ch gwisg Calan Gaeaf fwyaf ofnus!

 

Denbigh Castle

Calan Gaeaf yng Nghastell Dinbych - T51

Dydd Sadwrn 31 Hydref 2026

Ewch i Gastell Dinbych gyda’ch gwisg fwyaf ofnus amdanoch a mwynhewch lwybr a chrefftau llawn braw. Cewch beintio’ch wyneb i fynd â’ch gwisg ac ennill gwobrau siocled Calan Gaeaf wedi ichi gwblhau’r llwybr.

 

Plantasia Meerkat

Hanner Tymor yn Plantasia, Abertawe - T6

Plantasia

Ar ddiwrnod glawog yn ystod hanner tymor yr Hydref, ewch i Plantasia i ganfod byd llawn bywyd gwyllt ac anifeiliaid yng nghalon y ddinas. Am ddiwrnod sydd hyn yn oed yn rhatach, gallwch gael 20% oddi ar bris eich mynediad wpan fyddwch yn teithio yno ar ein bws T6.

Peidiwch ag anghofio gwisgo’ch gwisg Calan Gaeaf fwyaf ofnus!

Gallwch gael tocynnau rhatach pan fyddwch yn ymweld â Plantasia yn Abertawe wrth deithio ar ein bws T6.

Ydych chi’n dymuno taith arswydus i Plantasia? Ewch yno ar 31 Hydref am eu digwyddiadau arbennig ‘Glass Slipper Events’.

P’un a ydych yn chwilio am ddigwyddiadau Calan Gaeaf, atyniadau i’r teulu neu weithgareddau hanner tymor yng Nghymru sy’n fforddiadwy, mae yna ddigonedd o bethau a fydd yn diddanu’r teulu oll pan fyddwch yn teithio ar y bws. Teithiwch gyda TrawsCymru a mwynhewch ddiwrnodau allan i’r teulu yng Nghymru dros hanner tymor. Cynlluniwch eich taith: https://traws.cymru/cy