T19 i roi'r gorau i weithredu

3 blynedd yn ôl Mon 6th Feb 2023

Front of the T19 Bus

Yn anffodus, mae Llew Jones Coaches wedi cyhoeddi na fyddan nhw bellach yn gweithredu gwasanaeth T19 TrawsCymru sy’n rhedeg rhwng Blaenau Ffestiniog a Llandudno o ddydd Sadwrn 11 Chwefror 2023. Mewn datganiad, dywedodd y cwmni fod gostyngiad enfawr yn nifer y teithwyr ers y pandemig wedi gwneud. y gwasanaeth yn ariannol anhyfyw.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yr ardal i nodi a datblygu atebion i gefnogi teithwyr yn enwedig rhwng Blaenau Ffestiniog a Llanrwst.

Mae yna nifer o wasanaethau bws a thrên amgen yn Nyffryn Conwy a gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yma.

Hoffem hefyd atgoffa teithwyr rhatach bod eu tocyn teithio yn gymwys i’w ddefnyddio ar reilffordd Dyffryn Conwy hefyd – Blaenau Ffestiniog i Landudno.

Concessionary Train Travel Senior Rail Tickets | TfW

Byddwn yn diweddaru’r wybodaeth hon wrth i ragor o fanylion am unrhyw atebion arfaethedig gael eu sefydlu.