T19 - Beth yw fy opsiynau teithio?
10 mis yn ôl
Teithio o amgylch Llandudno a Chyffordd Llandudno?
Mae gwasanaethau 25/X25 Arriva yn parhau i ddarparu ystod eang o wasanaethau yn yr ardal o Eglwysbach i Palladium Llandudno (Stop Y) bob dydd Llun i ddydd Sadwrn. Mae'r llwybr hefyd yn cynnwys gorsafoedd trên Llandudno a Chyffordd Llandudno.
Gellir dod o hyd i amserlenni gwasanaethau yma ac ar Ap Arriva.
Bydd cwmni Llew Jones yn parhau i redeg eu gwasanaeth 19, gan gynnwys Llandudno (Stop B) i Gyffordd Llandudno. Mae'r gwasanaeth hwn ar gael o ddydd Llun i ddydd Sul.
Gellir dod o hyd i amserlenni Llun i Sadwrn ar gyfer Llew Jones yma , a gwasanaethau Sul / Gwyliau Cyhoeddus yma .
Mae gwasanaeth rheilffordd Trafnidiaeth Cymru yn gweithredu rhwng Llandudno a Blaenau Ffestiniog bob dydd, gyda safleoedd yn yr ardal yn cynnwys Llandudno, Deganwy a Chyffordd Llandudno. I gynllunio eich taith trên ac archebu tocynnau, cliciwch yma . Neu, rhowch gynnig ar Ap Trafnidiaeth Cymru – mae’n rhad ac am ddim i’w lawrlwytho!
Teithio rhwng Cyffordd Llandudno a Llanrwst?
Bydd Llew Jones yn parhau i redeg eu gwasanaeth 19, gan wasanaethu o Gyffordd Llandudno i Felin Trefriw, gan gynnwys Coleg Llandrillo yn Rhos, Ffordd yr Ysbyty a Dolgarrog.
Gellir dod o hyd i amserlenni Llun i Sadwrn ar gyfer Llew Jones yma , a gwasanaethau Sul / Gwyliau Cyhoeddus yma .
Mae gwasanaeth rheilffordd Trafnidiaeth Cymru yn gweithredu rhwng Llandudno a Blaenau Ffestiniog bob dydd, gyda mannau codi yn ardal Llandudno, Glan Conwy, Tal y Cafn a Dolgarrog.
I gynllunio eich taith trên ac archebu tocynnau, cliciwch yma . Neu, rhowch gynnig ar Ap Trafnidiaeth Cymru – mae’n rhad ac am ddim i’w lawrlwytho!
Teithio rhwng Llanrwst a Blaenau Ffestiniog?
Mae gwasanaeth Fflecsi Dyffryn Conwy Trafnidiaeth Cymru yn gweithredu chwe diwrnod yr wythnos rhwng 06.30am a 7pm ac yn cynnwys Llanrwst a Betws y Coed ardal oedd yn arfer cael ei gwasanaethu gan y T19. I gael rhagor o wybodaeth am yr holl wasanaethau sydd yn yr ardal ac i archebu gwasanaeth, cliciwch yma , defnyddiwch yr Ap (am ddim i'w lawrlwytho) neu ffoniwch 0300 234 0300 am gymorth a chyngor.
Bydd Llew Jones yn parhau i redeg eu gwasanaeth 19, sy'n gweithredu o ddydd Llun i ddydd Sul. Mae amserlenni dydd Llun i ddydd Sadwrn i'w gweld yma , a gwasanaethau Sul/Gwyliau Cyhoeddus yma .
Mae gwasanaeth rheilffordd Trafnidiaeth Cymru yn gweithredu rhwng Llandudno a Blaenau Ffestiniog bob dydd, gyda safleoedd codi yn yr ardal yn cynnwys Dolgarrog, Gogledd Llanrwst, Llanrwst, Betws y Coed, Pont y Pant, Dolwyddelan, y Bont Rufeinig a Blaenau Ffestiniog.
I gynllunio eich taith trên ac archebu tocynnau, cliciwch yma . Neu, rhowch gynnig ar Ap Trafnidiaeth Cymru – mae’n rhad ac am ddim i’w lawrlwytho!