T1 a Sherpa'r Wyddfa ar restr fer Gwobrau Bws y DU 2023
2 flynedd yn ôl
Rydym wrth ein bodd bod gwasanaethau T1 TrawsCymru a Sherpa’r Wyddfa wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Bws y DU 2023 eleni.
Yn dilyn ymlaen o dderbyn ‘canmoliaeth uchel’ yn y Gwobrau Trafnidiaeth Cenedlaethol, mae’r T1 wedi cyrraedd y rhestr fer fel rhan o’r categori ‘Cyfoethogi Profiad y Cwsmer’, tra bod Sherpa’r Wyddfa wedi cyrraedd y rhestr fer yn y ‘Bysiau ar gyfer Hamdden’ a’r Categorïau Bysiau ar gyfer Twf.

Ers ei ail-lansio ym mis Mawrth, mae’r gwasanaeth T1 holl-drydanol wedi mynd o nerth i nerth, gyda mwy na 100,000 o deithwyr yn teithio ar y llwybr hollbwysig rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin ymhen chwe mis.
Yn yr un modd, mae Sherpa’r Wyddfa, sy’n cael ei rhedeg mewn partneriaeth rhyngom ni a Chyngor Gwynedd, wedi adfywio trafnidiaeth gyhoeddus o fewn ac o gwmpas Parc Cenedlaethol Eryri ers ei hail-lansio nôl ym mis Ebrill y llynedd, gan helpu i yrru trafnidiaeth gynaliadwy yn un o tirweddau mwyaf poblogaidd Cymru ac yr ymwelir â hwy fwyaf!
Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi chwarae eu rhan yn llwyddiant y ddau wasanaeth bws hyn, sy'n darparu cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus hanfodol i bobl Cymru.