Lansio Spark! ar TrawsCymru

7 mis yn ôl Tue 16th Dec 2025

Enjoying your journey? Take our quick survey!

Yn TrawsCymru rydym yn gwerthfawrogi eich adborth. Mae pob taith rydych chi'n ei chymryd gyda ni yn helpu i lunio dyfodol ein gwasanaethau, ac rydym am wneud yn siŵr bod eich profiad mor dda â phosibl. Dyna pam rydyn ni wedi partneru â Spark, ffordd syml a chyfleus i chi rannu eich meddyliau mewn amser real wrth deithio ar ein bysiau.

Byddem wrth ein bodd yn clywed eich barn am lendid ein bysiau, cyfeillgarwch ein gyrwyr, prydlondeb eich taith a mwy. Mae eich adborth yn ein helpu i ddathlu'r hyn rydyn ni'n ei wneud yn dda a gwella lle gallwn, fel bod pob taith gyda TrawsCymru yn fwy pleserus.

 

Cwestiynau cyffredin

C1: Beth yw Spark?
Spark yw'r ffordd newydd i chi roi adborth byw wrth deithio ar un o'n bysiau TrawsCymru.

C2: Sut ydw i'n defnyddio Spark?
Mae'n syml, sganiwch y QR sydd i weld ar ein bysiau neu gallwch ymweld â Spark! Surveys i gysylltu â ni.

C3: Sut arall alla i ddarparu adborth?
Os hoffech rannu adborth ychwanegol gyda'n tîm anfonwch e-bost at [email protected].

C4: Mae gen i gwestiwn arall, gyda phwy ydw i'n cysylltu?
E-bostiwch y tîm ar [email protected] os oes gennych unrhyw ymholiadau ychwanegol.