Llwybrau gorau Mis Cerdded Cenedlaethol!
1 mis yn ôl
Mae'n Fis Cerdded Cenedlaethol, sef yr amser perffaith i fynd am dro i fwynhau tirweddau gwych Cymru.
P'un a ydych chi'n cynllunio taith gerdded yn y parc, neu daith gerdded ar hyd Llwybr Arfordir Cymru, dyma ambell i awgrym i'ch cefnogi.
Cynllunio
Mae Mis Cerdded Cenedlaethol ym mis Mai, felly gallwn obeithio am heulwen hyfryd. Ond - byddwch yn barod ar gyfer tywydd newidiol! Paratowch haenau, hufen haul a digon o ddŵr.
Os ydych chi'n cerdded ar hyd Llwybr Arfordir Cymru, yn gyntaf cynlluniwch eich llwybr chi . Gwiriwch amseroedd llanw, amodau tywydd, hygyrchedd, ac unrhyw ddargyfeirio llwybrau.
Trafnidiaeth
TrawsCymru yw'r man cychwyn perffaith ar gyfer anturiaethau Mis Cerdded Cenedlaethol:
- Mwynhewch daith gerdded arfordirol hardd o Aberystwyth i Aberaeron cyn dychwelyd ar y T5
- Teithiwch i waelod Pen y Fan ar ein bws T4 TrawsCymru
- T6 i Abertawe a cherdded i'r Mwmbwls
Mae cerdded yng Nghymru yn ffordd hyfryd, unigryw o fwynhau ein gwlad a’r awyr iach, ac rydym yma i'ch helpu ar hyd y daith.
Cofiwch wirio amserlenni cyn gadael eich cartref er mwyn sicrhau eu bod yn cyd-fynd â'ch taith.
Gwisgwch yn briodol
mae haenau yn hanfodol ar gyfer Mis Cerdded Cenedlaethol; haen sylfaenol, haen llewys hir a haen wrth-ddŵr.
O ran esgidiau, teimlo’n gysurus sy’n bwysig. Dewiswch esgidiau dibynadwy sy'n gyfforddus i osgoi blistyrs, neu swigod.
Bwyd a diod
P'un a ydych chi'n cymryd picnic cartref, neu yn ymweld â thafarn ar ddiwedd eich taith gerdded, mae bwyd a diod yn hanfodol. Dewch â digon o ddŵr ar gyfer hyd eich taith gerdded, a byrbrydau i gadw lefelau egni yn uchel.
Signal ffôn
Os ydych chi'n cynllunio taith hirach, mae'n debygol y byddwch chi'n colli signal ffôn symudol mewn rhai ardaloedd gwledig ac arfordirol. Cofiwch wefru'ch ffôn a dod â gwefrydd cludadwy fel nad yw’r batri yn dod i ben gyda’r hwyr. Pe baech yn dibynnu ar fapiau digidol, cofiwch gopïau ar bapur rhag ofn.
Yn barod am daith gerdded? Beth am gychwyn Mis Cerdded Cenedlaethol ar arfordir gorllewinol Cymru? Edrychwch am y mannau cerdded gorau ar hyd Llwybr Arfordir Cymru y gallwch gyrraedd ar ein bws T5 yma.