Teithio am ddim i bersonél milwrol a chyn-filwyr
7 mis yn ôl
Fel diolch gan TrawsCymru, gall personél milwrol a chyn-filwyr deithio am ddim ar wasanaethau TrawsCymru i fynychu digwyddiadau Cofio, ar Sul y Cofio (9 Tachwedd) a Dydd y Cadoediad (Dydd Mawrth 11 Tachwedd).
Bydd y rhai sy'n teithio sy’n gwisgo lifrai neu sy'n gallu dangos cerdyn adnabod milwrol, yn gymwys i deithio am ddim ar wasanaethau TrawsCymru.
Cynlluniwch ymlaen llaw a gwiriwch cyn teithio, oherwydd gallai cau ffyrdd a dargyfeiriadau ar gyfer gwasanaethau cofio effeithio ar eich taith.