Prynhawn o fwyta yn Nolgellau
2 fis yn ôl
Treulio prynhawn yn Nolgellau? Unwaith ichi orffen crwydro’r strydoedd swynol, gan bori’r siopau lleol neu hyd yn oed heicio i fyny Cader Idris, efallai bydd bach o chwant bwyd arnoch chi. Er iddo fod yn fach, mae gan Ddolgellau lawer i’w gynnig. Dyma ychydig o fannau annibynnol ichi eu mwynhau a gallwch eu cyrraedd ar fws.

Popty’r Dref
Yn cuddio ar stryd fach, ceir Popty’r Dref – mae ymweliad yma yn hanfodol. Gyda ffenest siop llawn sleisys cwstard, byns cyrens a byns mêl eiconig yn eich denu chi i mewn, mae’n anodd peidio â blasu pob dim.

Yn orlawn â danteithion melys, mae yna lwyth o ddewis. Gyda chlasuron megis cacen coffi a chneuen Ffrengig a danteithion arbennig fel brownie Kinder Bueno, ni fyddwch yn gadael Popty’r Dref gyda’ch dwylo’n wag. Os fyddai’n well gennych chi bryd o fwyd, ceir dewis o brydau traddodiadol arbennig megis pyffiad tŷ a bolognese.

DD’s Bakery and Sandwich Bar
Crwydrwch ychydig o strydoedd draw i Sgwâr Eldon lle byddwch yn dod o hyd i DD’s Bakery. Gydag awyrgylch a dofednod clyd a chroesawgar, dyma’r man perffaith i fwynhau gwledd o fwydydd wedi’i bobi. Pasteiod, peis, quiche a brechdanau - cymrwch eich dewis. Gallwch hyd yn oed fynd â thorth o fara ffres adref â chi.

Gyda chymaint o ddanteithion melys, bydd yn anodd ichi stopio gyda’r pethau sawrus. Cymrwch olwg ar y cownter o gacennau - beth am drio un o’u cacennau Eccles?
Torrent Walk Hotel
Os ydych chi’n dymuno bwyd tafarn, mae yna ddigonedd o ddewis yn Nolgellau. Gydag awyrgylch groesawgar, cwis wythnosol a bwyd da, mae Torrent Walk Hotel yn un o’r tafarndai ymysg y dewis eang hwn.

Llenwch eich bol, mwynhewch yr addurn a’r gwaith celf lleol a dechreuwch gynllunio eich taith yn ôl i Ddolgellau - yn barod ar gyfer Sesiwn Fawr, efallai?
Gyda gwasanaethau rheolaidd ar ein gwasanaethau bws T2 a T3/T3C, mae teithio i Ddolgellau ar y bws yn hawdd. Dechreuwch gynllunio’ch taith yma: https://traws.cymru/cy/services