5 lle y gallwch ymweld â hwy ar y T4

1 flwyddyn yn ôl Tue 9th Sep 2025

Os ydych chi'n ystyried gweld mwy o Gymru, ewch ar y T4 a dechrau archwilio. Mae yna lawer o drysorau cudd ar hyd y llwybr hwn nad ydych efallai wedi clywed amdanynt. O goedwig deuluol i fwthyn hanesyddol, mae digon i'w ddarganfod. Ac i wneud eich taith hyd yn oed yn llyfnach, gallwch nawr brynu tocynnau ar gyfer y gwasanaeth hwn ar ein ap. Darllenwch am y 5 lleoliad rydym yn argymell eich bod yn ymweld â hwy ar y bws.

 

Canolfan Ymwelwyr Garwnant

Wedi'i leoli ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, mae Canolfan Ymwelwyr Garwnant yn ddiwrnod allan gwych. Mae 400 erw o goetir i'w archwilio, llwybrau cerdded, canolfan chwarae, man llogi beiciau a mwy. Mae gweithgareddau i'r teulu cyfan eu mwynhau, gan gynnwys saethyddiaeth a phaentio crochenwaith. Gallwch brynu anrhegion yn y siop ar y safle a chael tamed i'w fwyta yn y caffi.

Amgueddfa Bwthyn Joseph Parry

Ymwelwch â man geni cyfansoddwr mwyaf adnabyddus Cymru yng nghanol Merthyr. Yn enwog am gyfansoddi ‘Myfanwy‘, mae Amgueddfa Bwthyn Joseph Parry yn ymweliad hanfodol. Yn llawn hanes, mae'r tu mewn yn dangos sut oedd gweithwyr haearn yn y 1840au yn byw. Ewch i fyny'r grisiau i'r oriel i ddysgu am fywyd Joseph Parry yn yr arddangosfa.

Theatr Soar

Darganfyddwch ddiwylliant y celfyddydau lleol yn y capel hwn sydd wedi cael ei ddiweddaru. Yng nghanol cymuned Merthyr, mae Theatr Soar yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau, gweithdai a pherfformiadau. O sesiynau Holi ac Ateb byw gydag actorion i gynyrchiadau lleol, mae yna lawer i ddewis ohono. Ewch i'w tudalen Beth Sy 'Mlaen i gynllunio'ch taith.

Y Gaer

Mae'n rhaid ymweld â thrysor cudd Y Gaer. Mae'n fach ond yn llawn arddangosfeydd, archwiliwch y llys Fictoraidd, gwisgwch wisg draddodiadol Gymreig ac ewch i ystafelloedd yr hen ysgol. Crwydrwch o amgylch yr oriel gelf yna ewch i lawr y grisiau i'r llyfrgell lle gallwch archwilio'r amrywiaeth o lyfrau ac ymweld â'r caffi.

Oriel Davies Gallery

Profwch gelf o'r radd flaenaf yn Oriel Davies Gallery, oriel gelf gyhoeddus ragorol. Yn cynnwys celf gan artistiaid cenedlaethol a rhyngwladol, ewch i'r Oriel a mannau arddangos i ddysgu mwy am gelf gyfoes - yn rhad ac am ddim. Yna, beth am alw yn y caffi i gael paned a theisen.

Gallwch drefnu eich taith ar y T4 yma: : T4 - Y Drenewydd - Caerdydd