Defnyddiwch eich cerdyn teithio rhatach ar bob gwasanaeth bws TrawsCymru
Heddiw
Oeddech chi'n gwybod bod cardiau teithio rhatach yn ddilys ar bob gwasanaeth bws TrawsCymru?
Os ydych chi'n byw yng Nghymru ac yn 60 oed neu'n hŷn neu os oes gennych chi anabledd, gallwch wneud cais am gerdyn teithio rhatach drwy Trafnidiaeth Cymru. Mae hyn yn darparu teithio bws am ddim ar y rhan fwyaf o wasanaethau bysiau yng Nghymru a phob gwasanaeth bws TrawsCymru.
Mae eich cerdyn rhatach yn caniatáu ichi deithio o gwmpas Cymru mewn ffordd gynaliadwy, archwilio ardaloedd newydd a mwynhau eich amser rhydd. Dyma wybodaeth ddefnyddiol am gardiau teithio rhatach er mwyn i chi allu manteisio i'r eithaf ar eich un chi.
Sut i wneud cais am eich cerdyn teithio rhatach
Gallwch wneud cais am eich cerdyn teithio rhatach drwy Trafnidiaeth Cymru. Mae'r broses ymgeisio yn cymryd tua 10 munud, a'r cyfan sydd ei angen arnoch yw:
- Eich rhif Yswiriant Gwladol
- Enw eich cyngor lleol
- Llun digidol arddull pasbort ohonoch chi'ch hun
- Llun digidol sy'n debyg i lun pasbort ohonoch chi'ch hun
- Dau brawf o gyfeiriad, fel bil cyfleustodau a thystiolaeth o gofrestru ar y rhestr etholiadol
Gallwch wneud cais am gerdyn teithio rhatach hyd at 14 diwrnod cyn eich pen-blwydd yn 60 oed.
Unwaith y bydd eich cais wedi’i gymeradwyo, dylai gymryd hyd at 10 diwrnod gwaith i’r cerdyn gyrraedd.
Sut i ddefnyddio'ch cerdyn teithio rhatach
Unwaith y bydd wedi cyrraedd, mae defnyddio'ch cerdyn teithio rhatach ar ein bysiau yn syml:
- Dangoswch eich cerdyn i'r gyrrwr
- Rhowch eich cerdyn ar y darllenydd tocynnau, lle byddwch yn clywed bîp fel cadarnhad
- Mwynhewch eich taith
Tybed ble gall eich cerdyn rhatach eich tywys? O drefi arfordirol lliwgar i fryniau gwledig, gadewch i'r anturiaethau ddechrau gyda TrawsCymru. Dysgwch ragor am bethau i'w gwneud a ble gallwch ymweld gyda TrawsCymru yma.