Newidiadau i brisiau tocynnau ar wasanaethau penodol
2 fis yn ôl

Rydym yn newid prisiau tocynnau ar rai o'n gwasanaethau ac yn cyflwyno cap ar gyfer tocynnau unffordd o ddydd Sul 2 Mawrth 2025.
Bydd prisiau tocynnau'n newid ar wasanaethau T1, T1A, T1X, T1C, T2, T3, T3C, T10 a T22, a bydd cwsmeriaid yn talu yn ôl y pellter maent wedi teithio, gyda thocynnau unffordd yn cael eu capio ar £4*. Mae hyn yn golygu y gallwch deithio pellter cyfan y gwasanaeth e.e. Bangor i Aberystwyth ar y T2 am £4* yn unig.
Prisiau tocynnau o 2 Mawrth 2025:
Hyd y daith | Tocyn unffordd Oedolyn |
Hyd at 1.999 o filltiroedd | £1.50 |
2 -2.999 o filltiroedd | £1.60 |
3 - 5.999 o filltiroedd | £1.90 |
6 - 8.999 o filltiroedd | £2.20 |
9 - 11.999 o filltiroedd | £2.50 |
12 – 14.999 o filltiroedd | £2.80 |
15 -17.999 o filltiroedd | £3.10 |
18-20.999 o filltiroedd | £3.40 |
21-23.999 o filltiroedd | £3.70 |
*Caiff uchafswm pris tocyn unffordd T1C ei gapio ar £4 cyn belled â Chaerfyrddin, pris tocyn sengl ar gyfer yr holl lwybr yw £13.
Dyma’r newid cyntaf mewn prisiau tocynnau mewn 2 flynedd ac maent yn dilyn newidiadau i'r strwythur pris ar gyfer y gwasanaeth T6 a wnaed ddechrau mis Chwefror 2025.
Yn ogystal â'r newidiadau hyn, bydd ein tocynnau diwrnod cyfan a’n tocynnau wythnos ar wasanaethau T1/T1A/T1X, T2, T3/T3C, T6, T10, a T22, i gyd yn costio’r un peth, er mwyn sicrhau cysondeb ar draws ein gwasanaethau. Bydd tocynnau diwrnod yn costio £7, ac mae tocynnau wythnos yn costio £25, gan gynnig gwerth gwych am arian, yn enwedig i'r rhai sy'n teithio pellteroedd hirach. Mae tocynnau diwrnod ac wythnos hefyd ar gael ar gyfer teithiau rhannol am £6.00, a thocynnau wythnos am £22.00. Gweler traws.cymru/cy/mobile-tickets i weld y lleoliadau.
Atgoffir cwsmeriaid y gallant dalu am eu taith bws ymlaen llaw ar ap TrawsCymru, neu dalu ar y bws gydag arian parod neu ddyfeisiau digyswllt. Mae’r system Tap Ymlaen Tap Ymadael a chapiau prisiau 1bws hefyd ar gael yng Ngogledd Cymru ar wasanaethau T2, T3/T3C, T10, T22 lle cyfrifir prisiau'n awtomatig yn seiliedig ar eich teithiau, a chaiff eu capio fel y codir y pris diwrnod neu wythnos gorau arnoch. Bydd y cynllun hwn yn cael ei ehangu i'r llwybrau eraill yn ystod 2025.
Bwndel o docynnau
O'r dyddiad hwn, byddwn hefyd yn newid y bwndeli tocynnau sy’n unigryw'r ap. Bydd bwndeli tocynnau 5 diwrnod newydd yn cymryd lle’r bwndel blaenorol o 10 tocyn unffordd. Gellir defnyddio’r tocynnau unrhyw bryd o fewn 6 mis i'w prynu a byddant yn costio £5 yn llai na phrynu'r tocynnau'n unigol. Mae hyn yn cynnig mwy o hyblygrwydd i'n cwsmeriaid yn ogystal ag arbedion cost.
* Gellir parhau i ddefnyddio unrhyw docyn unffordd a brynwyd fel bwndel o 10 tocyn cyn 2 Mawrth, o fewn blwyddyn i'w prynu.
Bwriwch olwg ar ein prisiau eraill, fel ein cynnig i weithwyr Hywel Dda a’n tocynnau rheilffyrdd integredig a thocynnau TrawsCymru yma.