Daliwch y bws yn syth i'r Eisteddfod
2 wythnos yn ôl
Ydych chi’n mynd i'r Eisteddfod yr haf hwn? Gallwch gyrraedd yno ar y T5.
Rydym yn cynyddu amlder ein gwasanaeth bws T5 rhwng Aberteifi ac Abergwaun ar gyfer 8 diwrnod yr Eisteddfod. Mae hyn yn golygu y gallwch deithio yno'n ddiogel, yn hawdd a mwynhau eich diwrnod i'r eithaf.
Anghofiwch boeni am gyfarwyddiadau, ffyrnigrwydd ar y ffyrdd a threulio awr yn ciwio i adael y maes parcio. Prynwch ein Tocyn Diwrnod i’r Ŵyl a neidiwch ar y bws T5 a fydd yn mynd â chi’n syth i’r Eisteddfod. Bydd tocynnau bws yr Eisteddfod hefyd yn ddilys ar gyfer teithio ar wasanaethau bws 430 a 460.
Beth yw'r Eisteddfod?
Yr ŵyl deithiol fwyaf yn Ewrop yw’r Eisteddfod. Eleni yw ei phen-blwydd yn 850 oed a bydd yn cael ei dathlu yn Llantwd, calon gogledd Sir Benfro.
Drwy gydol wythnos y dathliadau, gallwch fwynhau perfformiadau Cymreig gan awduron, cerddorion, beirdd, cystadlaethau dawns a chorau. Ac wrth i’r hwyl barhau gyda’r nos, fe welwch chi'r gerddoriaeth Gymreig orau ym Maes B - roc, indie, hip-hop, DJs a mwy.
Gallwch ymweld â'r Eisteddfod am y diwrnod neu fwynhau wythnos o hwyl a gwersylla. Dysgwch ragor yma.
Pryd mae'r Eisteddfod?
1 - 8 Awst 2026.
Sut alla i gyrraedd yno?
Bydd ein gwasanaeth bws T5 yn mynd â chi'n uniongyrchol i'r Ŵyl, gan ddarparu teithio fforddiadwy a chynaliadwy. Bydd yn rhedeg bob awr rhwng Aberteifi ac Abergwaun o 1-8 Awst ar gyfer yr Eisteddfod. Gallwch hefyd neidio ar wasanaethau bws 430 a 460 i gyrraedd yr eisteddfod.
Faint yw tocynnau bws ar gyfer yr Eisteddfod?
- Tocyn diwrnod i oedolion ar gyfer yr Eisteddfod - £6
- Tocyn diwrnod i deuluoedd ar gyfer yr Eisteddfod - £10 (2 oedolyn + 3 o blant)
Gellir prynu'r tocynnau hyn yn ddigidol drwy ein ap TrawsCymru neu'n gorfforol ar ein bysiau T5, a ar wasanaethau bws 430 a 460. Bydd y tocynnau'n ddilys ar gyfer y llwybr cyfan ac nid ydynt yn gyfyngedig i deithio i/o'r Eisteddfod.
Fforddiadwy, cynaliadwy a ni sydd wrth y llyw - beth allai fod yn well? Dechreuwch gynllunio’ch taith yma, ac fe welwn ni chi yn yr Eisteddfod.
Telerau+amodau
- Nid yw tocynnau bws yr Eisteddfod yn cynnwys mynediad i'r Eisteddfod; dim ond ar gyfer eich taith fws i'r ŵyl ac oddi yno y maent yn ddilys.
- Yn ddilys hyd at y gwasanaeth olaf ar ddiwrnod y pryniant/actifadu ar T5, 430 a 460
- Dim ond rhwng Aberteifi ac Abergwaun y bydd bysiau T5 yn rhedeg yn amlach rhwng 01 a 08 Awst 2026.
- Dim ond rhwng 01 a 08 Awst 2026 y mae tocynnau T5 yr Eisteddfod yn ddilys.
- Dyddiad dod i ben ar gyfer actifadu tocyn yr ap yw 02:00 ar 9 Awst
- Mae Tocynnau Diwrnod i Oedolion a thocynnau Diwrnod i Deuluoedd ar gyfer yr Eisteddfod ddilys ar gyfer teithio ar y diwrnod y cânt eu prynu. Os cânt eu prynu ar ap TrawsCymru, byddant yn ddilys am 24 awr.