5 ffordd o dreulio’r dydd ym Machynlleth
4 mis yn ôl

Yn ôl y cylchgrawn Time Out, y cyrchfan a danbrisir fwyaf yn y DU yw’r dref farchnad, Machynlleth. Yn dref llawn cymeriad, rhaid yw rhoi Machynlleth ar eich rhestr o deithiau’r dyfodol a gallwch ei chyrraedd ar fws. Wrthi’n meddwl am yr hyn i’w wneud ar eich taith? Am ein hargymhellion gorau am sut i dreulio diwrnod ym Machynlleth, darllenwch ymlaen.

1. Stop coffi
I lenwi’ch taith ag egni, ewch am goffi’n gyntaf ac yn ffodus mae yna ddewis enfawr ym Machynlleth. Mae Hermit Crab Coffee yn enwog am ei goffi artisan a chacennau a byrbrydau blasus, yn enwedig y pice ar y maen. Am ddechreuad perffaith i’ch diwrnod gyda brecwast ffrio gogoneddus, ceir digonedd o ddewis ar Heol Maengwyn.


2. Archwilio hanes lleol a diwylliant cyfoes
Ewch i MOMA Machynlleth (amgueddfa gelf gyfoes) am flas ar ddiwylliant Cymreig cyfoes. Gan ddathlu artistiaid lleol a rhyngwladol mewn capel wedi’i addasu, porwch yr holl arddangosfeydd a bwriwch olwg ar yr hyn sydd ymlaen.
Yn bellach yng nghanol y dref, ceir Canolfan a Senedd-dŷ Owain Glyndŵr, sy’n amgueddfa gerdded a hwb cymunedol. Dysgwch am hanes Owain Glyndŵr, y senedd dŷ, a’i bwysigrwydd diwylliannol i Fachynlleth. Ewch i’r siop lyfrau a leolir yng nghanol y dref i ddod o hyd i’r gwaith celfyddydol hynaf yng Nghymru cyn 1914 a bwriwch olwg ar lyfrau am ddiwylliant a hanes Cymru.


3. Siopau annibynnol
Mae strydoedd Machynlleth yn orlawn â siopau annibynnol sy’n berffaith ar gyfer prynhawn o grwydro.
Hawdd fyddai treulio oriau yn y siop anrhegion annibynnol, Ian Snow, sy’n llawn trysorau ar gyfer y cartref megis gwydrau gwin patrymol, pethau prydferth i’r gegin, canhwyllau a chlustogau.
Ewch i RED Shoes am esgidiau wedi’u teilwra a Waggy’s Records am hen recordiau. Dewch â bach o liw i’ch wardrob yn siop ddillad, Gweni Gwyllt, sy’n cefnogi dillad cynaliadwy, Prydeinig.
Gyda siop lyfrau Penrallt Gallery Bookshop, Literary Cat Books a Dyfi Valley Books ar eich drws, mae yna gymaint o ddewis i’r rheini sy’n dwlu ar lyfrau, hefyd.

4. Rhywle i fwyta
Mae’r Royal House yn enwog am ei amrywiaeth o gacennau a byrbrydau blasus, brechdanau swmpus a pizzas cartref. Mwynhewch brydau Cymreig fel y clasur, caws pobi, neu tostada Sbaeneg gyda thro. P’un a ydych yn llysfwytäwr, yn figan neu’n bwyta cig, mae yna rywbeth i bawb. Ein ffefrynnau personol ni oedd y lasagne ratatouille a’r sleisen cwstard.
Am brofiad bwyta cain, beth am fynd i unig fwyty Cymru sydd â dwy seren Michelin? Mae’r bwyty a gwesty Ynyshir yn hynod o boblogaidd ac fe’i hystyrir y gorau yng Nghymru oherwydd statws ei sêr Michelin. Ceir bwydlen samplu 30 cwrs ochr yn ochr â cherddoriaeth a blasau byd eang, sy’n creu ‘theatr coginio’.
5. Cynllunio’ch ymweliad nesaf
Os oes angen arnoch esgus arall i ddychwelyd i Fachynlleth, dylai’r ŵyl gomedi fod ar frig eich rhestr o resymau. Gan ddenu sêr profiadol y byd comedi a chomediwyr y dyfodol, mae poblogrwydd yr ŵyl yn dod â miloedd o ymwelwyr i Fachynlleth bob mis Mai. Gan drawsffurfio’r dref yn ŵyl fendigedig, byddwch yn gweld sioeau amrywiol ar hyd a lled Machynlleth. Mae lleoliadau’r siopau’n cynnwys Clwb Bowlio Machynlleth, MOMA, a thafarndai lleol.
Mae Gŵyl Machynlleth yn rheswm arall i fynd yn ôl i Fachynlleth. Wedi'i chynnal dros 8 diwrnod, mae'r ŵyl yn croesawu cerddoriaeth, diwylliant a threftadaeth Gymreig a rhyngwladol. Perffaith ar gyfer diwrnodau allan yn yr haf, mwynhewch ddathliad o Gymru yng nghanol y wlad.
Sut i gyrraedd Machynlleth
Ewch ar ein gwasanaethau bws T2 neu T28 TrawsCymru.
Ymlaciwch ac archwiliwch y dref gan adael inni wneud yr holl yrru. Cynlluniwch eich ymweliad i Fachynlleth gyda TrawsCymru yma.