Darganfyddwch Cymru mis Cerdded Cenedlaethol hwn

3 blynedd yn ôl Tue 2nd May 2023

Mae Cymru'n deffro o'i gaeafgwsg ac mae bywyd yn gwanwyno, mewn pryd i ddathlu Mis Cerdded Cenedlaethol fis Mai eleni.

Dyw hi ddim yn gyfrinach bod cerdded yn cynnig llawer o fanteision corfforol ac iechyd meddwl, ond mae cerdded hefyd yn ein helpu i gadw cysylltiad â'n cymuned a mynd i'r afael â theimladau o unigrwydd ac unigedd.

Mae Cymru a cherdded yn mynd law yn llaw, a rhwydwaith TrawsCymru yw eich porth chi i archwilio rhai o'r llwybrau cerdded gorau ym mis Mai.

Dyma rai o'n hoff fannau i helpu ysbrydoli eich mis o gerdded!
 

Pen-y-Fan ac Aberhonddu – Gwasanaethau T4 a T6

Image of footpath leading to Pen y fan

Mae ein gwasanaeth T4 yn mynd â chi’n syth i waelod un o fynyddoedd mwyaf eiconig Cymru – Pen-y-Fan.

Mae’r llwybr hwn yn siŵr o chwythu’r gwe pryf cop i ffwrdd a gall y tywydd cyfnewidiol wneud i’r ddringfa i’r copa fod yn her go iawn – felly gwnewch yn siŵr eich bod yn barod ar gyfer yr un yma!

Mae tref Aberhonddu hefyd yn ganolfan wych i archwilio’r llu o fannau trawiadol sy’n llenwi'r tirlun o’i hamgylch. Neu os ydych chi awydd rhywbeth ychydig yn fwy hamddenol, ewch am dro ar hyd llonyddwch Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu sy’n rhedeg drwy’r dref.

Mae rhagor o wybodaeth am deithiau cerdded a llwybrau lleol o amgylch Aberhonddu ar gael yma.
 

Betws-y-Coed – Gwasanaeth T10

Image of Betws y coed town

Mae Betws-y-Coed yn baradwys i gerddwyr.

Mae’r pentref gwyliau hwn yng nghanol y mynyddoedd yn nyffryn Conwy yn cynnig llwyth o deithiau cerdded i bob oed a gallu.

Os ydych chi’n bwriadu aros yn agos at y dref, mae taith gerdded ar hyd yr Afon Llugwy hyfryd yn berffaith i deuluoedd sydd â phramiau, cadeiriau olwyn a’r rheini nad ydynt yn gallu cerdded yn bell. Os oes gennych chi awydd mynd ymhellach, mae yna ddigon o berlau cudd – gan gynnwys y Rhaeadr Ewynnol rhamantus a’r Tŷ Hyll eiconig.

Mae natur wyllt Coedwig Gwydyr yn ddewis da os ydych chi’n awyddus i archwilio ychydig ymhellach. Mae yma lwybrau niferus, llwybrau hen lowyr a llwybrau beiciau a fydd yn eich arwain at lynnoedd hudolus Llyn Elsi, Llyn Parc, Llyn Geirionnydd a Llyn Crafnant.

Mae rhagor o wybodaeth am deithiau cerdded a llwybrau lleol o amgylch Betws-y-coed ar gael yma.
 

Arfordir Sir Benfro – gwasanaethau T11 a T5

Pembrokeshire coast path

Os ydych chi awydd rhywbeth sy’n golygu llai o ddringo, yna mae taith gerdded arfordirol yn swnio’n berffaith.

Ewch tua’r gorllewin i Sir Benfro a rhyfeddu at harddwch Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Mae digon o opsiynau cerdded yma hefyd – gan gynnwys llwybr arfordir eiconig Cymru.

Mae rhagor o wybodaeth am deithiau cerdded a llwybrau lleol o amgylch Sir Benfro ar gael yma.


Llangollen – Gwasanaeth T3

Llangollen canal

Gyda’i harddwch gwyllt a garw, mae Llangollen yn gyrchfan brysur i gerddwyr ac mae’n werth ymweld â hi eleni.

Os ydych chi’n chwilio am lwybrau hamddenol, mae Llangollen wedi’i bendithio â dwy ddyfrffordd hardd – Camlas Llangollen ac Afon Dyfrdwy. Mae’r ddwy yn cysylltu â’i gilydd ychydig filltiroedd y tu allan i’r dref, yn Ninbren – gan ddarparu llwybr cylchol hyfryd.

Neu beth am fentro i fawredd Dinas Brân – y castell adfeiliedig fry sy’n gwarchod Llangollen.

Mae rhagor o wybodaeth am deithiau cerdded a llwybrau lleol o amgylch Llangollen ar gael yma.
 

Nyth yr Eryr, Cas-gwent – T7

Eagles nest monmouthshire

Llun: Ymwelwch â Sir Fynwy 

Mae Dyffryn Gwy yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ac mae Nyth yr Eryr yn fan delfrydol i syllu ar y golygfeydd anhygoel islaw.

Daliwch y bws T7 i Gas-gwent a neidiwch ar fws 69 lleol i gyfeiriad Trefynwy.  Dewch oddi oddi ar y bws yn y safle bws ar ôl maes parcio Wyndcliff Isaf.

Dychwelwch i faes parcio Wyndcliff Isaf ac fe welwch arwyddion am Nyth yr Eryr.

Bydd dipyn o waith cerdded egnïol yn eich hwynebu ond rydym yn addo, bydd pob cam yn werth yr ymdrech!

Mae amserlen T7 i'w gweld   yma   ac mae amserlen bws 69 i'w gweld   yma  .

 

Bwcio eich taith

Mae’n hawdd teithio gyda ni – cynlluniwch eich taith a phrynu tocynnau gan ddefnyddio ein ap TrawsCymru.

Mae ein ap newydd yn eich galluogi i weld amserlenni bysiau, gweld diweddariadau tracio cerbydau byw ac mae’n rhoi gwybod i chi faint o allyriadau carbon rydych chi’n eu harbed drwy deithio gyda ni – o gymharu â phetaech chi’n gyrru.