Teithio gyda TrawsCymru dros y Nadolig eleni

3 blynedd yn ôl Wed 14th Dec 2022

TrawsCymru Bus with a window view of welsh hills

Bydd gweithredu diwydiannol yn effeithio ar rwydwaith rheilffyrdd Cymru a’r Gororau dros nifer o ddiwrnodau ym mis Rhagfyr a mis Ionawr.

Bydd gweithredu diwydiannol ar y dyddiadau a ganlyn:

  • Dydd Mawrth 13 Rhagfyr
  • Dydd Mercher 14 Rhagfyr
  • Dydd Gwener 16 Rhagfyr
  • Dydd Sadwrn 17 Rhagfyr
  • Dydd Sadwrn 24 Rhagfyr rhwng 6pm a dydd Mawrth 26 Rhagfyr am 6am
  • Dydd Mawrth 3 Ionawr
  • Dydd Mercher 4 Ionawr
  • Dydd Gwener 6 Ionawr
  • Dydd Sadwrn 7 Ionawr

Er nad yw Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn rhan o’r gweithredu diwydiannol, bydd ymwneud Network Rail yn tarfu’n sylweddol ar rwydwaith Cymru a’r Gororau gan na fydd gwasanaethau rheilffyrdd ar seilwaith Network Rail yn gallu rhedeg. Bydd gweithredwyr trenau eraill hefyd yn cynnal gwasanaethau cyfyngedig iawn.

Os ydych chi’n bwriadu teithio ar y trên ar y dyddiadau uchod, mae’n bosibl y bydd dewisiadau teithio eraill ar gael i chi drwy wasanaethau bws TrawsCymru.

Mae TrawsCymru yn rhedeg gwasanaethau bws pellter hirach o brif gyrchfannau yng Nghymru, gan gynnwys Caerdydd, Abertawe, Caerfyrddin, Aberhonddu, Aberystwyth, Bangor a Wrecsam. 

Cynlluniwch eich taith drwy lwytho ein ap TrawsCymru i lawr yma, yma, neu drwy fynd i’n gwefan, yma.

Gallwch weld yr amserlenni Nadolig diweddaraf ar gyfer ein holl wasanaethau yma.