Teithio i’r Sesiwn Fawr gyda TrawsCymru
Heddiw
Mae gŵyl eiconig y Sesiwn Fawr yn dychwelyd i Ddolgellau fis Gorffennaf eleni. Beth am deithio yno gan ddefnyddio bws TrawsCymru?
Wrth drawsnewid y dref yn ganolfan gerddorol fywiog, mae'r Sesiwn Fawr flynyddol yn dathlu'r gorau o gerddoriaeth Gymreig a cherddoriaeth werin. Wrth i’r ŵyl lenwi tafarndai, lleoliadau cymunedol a mannau awyr agored, gallwch fwynhau amrywiaeth o berfformiadau cerddorol lleol a chyfoes. Mae'r Sesiwn Fawr yn gyfle i ymgolli yn niwylliant Cymru trwy gelfyddydau, treftadaeth a naws gymunedol.
Yn ogystal â pherfformiadau cerddorol, gallwch archwilio Dolgellau. Rhowch gynnig ar y cacennau mêl eiconig o Popty'r Dref, ewch i fynydda ar Gader Idris a chrwydrwch o gwmpas y siopau annibynnol i brynu cofrodd.
Mae ein gwasanaethau T2 a T3/T3C yn gweithredu yng nghanol Dolgellau, gan ddarparu teithiau diogel a chynaliadwy i'r ardal.
Dysgwch ragor am ein gwasanaethau T2 a T3/T3C yma.