Mynd ar y T11 i Lwybr Arfordir Cymru
3 blynedd yn ôl
Rydym wedi gweld digon o’n dilynwyr ar gyfryngau cymdeithasol yn mwynhau golygfeydd godidog Llwybr Arfordir Cymru eleni ac yn defnyddio gwasanaethau TrawsCymru i’w helpu i’w cyrraedd.
A dweud y gwir, roedden ni'n teimlo braidd yn genfigennus, felly fe benderfynon ni gyfnewid y swyddfa am yr awyr agored a rhoi cynnig ar ran o'r llwybr arfordirol gwych ein hunain.
Yn gynharach y mis hwn, aethom â’r T11 o orsaf drenau Hwlffordd i Dyddewi, dinas leiaf y DU, i gerdded rhan o Lwybr Cenedlaethol Arfordir Penfro – llwybr cenedlaethol dynodedig cyntaf Cymru a rhan boblogaidd o Lwybr Arfordir Cymru.
Gallwch ddarganfod mwy am ein taith a'r golygfeydd anhygoel sydd ar gael trwy wylio ein vlog!