Dewch ar daith Nadoligaidd gyda TrawsCymru y Nadolig hwn
3 blynedd yn ôl
Mae digon o hwyl yr ŵyl i’w gael mewn lleoliadau gwirioneddol wych ar hyd rhwydwaith TrawsCymru fis Rhagfyr eleni. Os oes gennych chi awydd crwydro o amgylch marchnad Nadolig, mwynhau amser gwerth chweil gyda’ch teulu a’ch ffrindiau neu fynd allan i siopa, mae gennym ddigon i’w gynnig!
Rydyn ni wedi creu rhestr o rai o’n hoff leoliadau Nadoligaidd i roi ychydig o ysbrydoliaeth i chi ar gyfer eich teithiau.
Defnyddiwch ap TrawsCymrui gynllunio eich taith ac i brynu tocyn.
Y Gororau
Bryste
Cymerwch daith fer ar ein gwasanaeth T7 o Gas-gwent dros y bont i Fryste i weld beth welwch chi yn y Farchnad Nadolig wych yno. Cewch grwydro o amgylch 50 o stondinau Nadolig a blasu danteithion Nadoligaidd blasus cyn cael diod fach haeddiannol yn y bar alpaidd Bafaria. Mae digon o gyfleoedd hefyd i’r plant gwrdd â Siôn Corn.

Llun: Ymweld Bryste
Henffordd
Mae’r ddinas hanesyddol hon ar y gororau yn gwybod sut i ddathlu’r Nadolig. Teithiwch ar ein gwasanaeth T14 yn syth i ganol Henffordd ac archwilio ei siopau annibynnol, ei bwytai a’i chadeirlan hardd – a fydd yn cynnal ei Ffair Nadolig ei hun ddydd Sadwrn 17 Rhagfyr. Ac os nad yw hynny’n ddigon, beth am fwynhau hoff bantomeim clasurol – Beauty and the Beast – sy’n cael ei gynnal yn The Courtyard tan 7 Ionawr.
Llun: Ffair Eglwys Gadeiriol Henffordd
De Cymru
Cas-gwent
Mae gan Gae Ras Cas-gwent amserlen lawn arall o rasys a digwyddiadau arbennig i’w mwynhau ym mis Rhagfyr eleni. Os ydych chi awydd prynhawn yn y rasys neu os oes gennych chi awydd Bingo Lingo, mae digon o hwyl Nadoligaidd ar gael. Gallwch gyrraedd Cas-gwent drwy deithio ar ein gwasanaeth T7 o Fryste ac yna neidio ar fws y gwasanaeth 69 ar gyfer y siwrnai fer i'r cae ras. Fel arall, gallwch gerdded o ganol y dref i'r cae ras mewn 20 munud.
Caerdydd
Mae’r brifddinas bob amser yn llawn bwrlwm yr ŵyl, ac nid yw eleni’n wahanol. Mae marchnad Nadolig enwog Caerdydd ymlaen tan 23ain Rhagfyr ac mae’n werth ymweld â hi. Hefyd, gallwch ymweld â Gŵyl y Gaeaf, sy’n hynod boblogaidd ac sy’n cael ei chynnal ar hyd Lawnt Neuadd y Ddinas a Chastell Caerdydd. Os ydych chi’n mynd i’r castell, byddwch yn barod i sglefrio. Ewch i Gaerdydd drwy deithio ar ein gwasanaethau T4, T1C a T14.

Canolbarth Cymru
Y Gelli Gandryll
Ewch ar ein gwasanaeth T14 i ‘dref y llyfrau’ y Nadolig hwn. Mae’r Gelli Gandryll yn dref farchnad brydferth ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Yn ogystal ag ymgolli yn siopau llyfrau niferus y dref, mae digon o hwyl Nadoligaidd ymlaen eleni. Bydd Hay Markets yn cynnal trydedd Ffair Nadolig y Gelli ddydd Sadwrn 10 Rhagfyr, gyda 40 o fasnachwyr yng nghanol y dref yn dod ag anrhegion Nadoligaidd, crefftau lleol a nwyddau cartref - yn ogystal â thipyn o ganu!

Gorllewin Cymru
Aberteifi
Beth am fynd draw i dref hyfryd Aberteifi ar ein gwasanaeth T5 a mwynhau noson Nadoligaidd o dan y goleuadau Nadolig wrth i oleuadau Nadolig y dref gael eu rhoi ymlaen ddydd Sadwrn y 3ydd o Ragfyr. Os nad yw hynny’n ddigon, dewch yn ôl i gael mwy o hwyl yn y Parti Nadolig yn Theatr Byd Bychan y dref ddydd Gwener 16 Rhagfyr.

Llun: CroesoCymru
Gogledd Cymru
Betws-y-Coed
Mae tymor yr ŵyl yn amser perffaith i ymweld â phrydferthwch Betws-y-Coed. Mae’r gyrchfan fynyddig hon yn nyffryn Conwy yn cynnwys digonedd o siopau sy’n gwerthu’r holl nwyddau awyr agored gorau a chrefftau lleol o safon. Mae hefyd yn lle perffaith ar gyfer taith gerdded yn y gaeaf. Bydd ein gwasanaeth T19 yn mynd â chi yno.

Llandudno
Mae digon i’ch diddanu fis Rhagfyr eleni yn y dref brysur hon yng ngogledd Cymru. Teithiwch ar ein gwasanaeth T19 i Landudno a mwynhau ei Gorymdaith Nadolig, a fydd yn mynd drwy’r dref ddydd Sadwrn 3 Rhagfyr. Os ydych chi awydd rhedeg, beth am wisgo gwisg Siôn Corn a chymryd rhan yn Ras Santa 5K yn y dref ar yr un diwrnod!
Ar wasanaeth bws TrawsCymru T19 yng ngogledd Cymru gallwch brynu tocyn bws dwyffordd dyddiol ar y T19, mynd ar fws ar gyfer eich taith allan, ond yna gallwch ddefnyddio’r tocyn ar y bws neu’r trên ar gyfer y daith yn ôl (ac i’r gwrthwyneb ar gyfer tocynnau trên).
Wrecsam
Ewch i ddinas ddiweddaraf Cymru ar ein gwasanaeth T3 neu T12 a mwynhau ei Marchnad Nadolig Fictorianaidd boblogaidd ddydd Mercher 7 Rhagfyr. Bydd dros gant o stondinau’n gwerthu llu o nwyddau a rhoddion Nadoligaidd ochr yn ochr â diddanwyr stryd Fictorianaidd a charwsél traddodiadol. Bydd yn ymestyn o Sgwâr y Frenhines i Eglwys San Silyn.
Llun: CroesoCymru