Addasiadau i amserlen T5
10 mis yn ôl
Mae amserlen newydd ar gyfer gwasanaeth bws T5 TrawsCymru wedi'i chyhoeddi. Gwnaed addasiadau i'r amserlen i ddarparu gwell dibynadwyedd a pherfformiad rhwng Aberteifi ac Aberystwyth, gyda'r amserlen newydd yn dod i rym o 17 Mehefin.
Mae esboniad llawn o'r newidiadau i'r gwasanaeth ar gael isod.
Newidiadau i deithiau tua'r gogledd: Hwlffordd i Aberystwyth
- Bydd taith gyntaf y dydd o Aberporth am 05:42 yn cael ei dileu.
- Ni fydd y gwasanaeth 14:00 (dydd Llun i ddydd Gwener) o Aberteifi bellach yn mynd i Aberporth.
- Ni fydd y gwasanaeth 15:00 (dydd Llun i ddydd Gwener) o Aberteifi bellach yn mynd i Gei Newydd.
- Bydd y gwasanaeth 06:47 (a arferai fod am 06:57) o Aberteifi hefyd yn gwasanaethu Coleg Ceredigion yn ystod y tymhorau ysgol.
Newidiadau i deithiau tua'r de: Aberystwyth - Hwlffordd
- Ni fydd y gwasanaeth 08:10 (dydd Llun i ddydd Gwener) o Aberystwyth bellach yn mynd i Aberporth.
- Ni fydd y gwasanaeth 11:10 (dydd Llun i ddydd Sadwrn) o Aberystwyth bellach yn mynd i Aberporth.
- Ni fydd y gwasanaeth 09:10 (dydd Llun i ddydd Gwener) o Aberystwyth bellach yn mynd i Gei Newydd
- Ni fydd y daith gyntaf tua'r de o Aberaeron bellach yn gwasanaethu Cei Newydd. Gall teithwyr fynd ar y bws yng Nghei Newydd ar ei daith tua'r gogledd i Aberaeron. Bydd y bws hwn yn mynd trwy Ffordd Osgoi Aberteifi i Sgwâr Finch, gan barhau i Tesco os gofynnir amdano.
Mae rhai addasiadau hefyd i amseroedd ymadael o Aberteifi tuag at Abergwaun o ganol y prynhawn ymlaen:
- Mae'r teithiau hwyr yn y prynhawn wedi cael eu hailamseru er mwyn caniatáu amser ychwanegol ar gyfer teithiau i'r gogledd tra'n parhau i gynnal cysylltiad â'r T5 i'r de yn Aberteifi. Bydd teithiau dychwelyd o Hwlffordd hefyd yn cael eu haddasu yn unol â hynny.
Bwrwch olwg ar yr amserlen newydd yma neu edrychwch ar amseroedd y dyfodol drwy newid y dyddiad ar amserlen T5 ar-lein.