Bydd y Gwasanaeth Bws T2 yn ailddechrau yn Nhrawsfynydd
9 mis yn ôl

Bydd y Gwasanaeth Bws T2 yn ailddechrau yn Nhrawsfynydd
Mae Trafnidiaeth Cymru, mewn partneriaeth â Lloyds Coaches, yn falch o gyhoeddi y bydd y gwasanaeth bws T2 yn ailddechrau gwasanaethu Trawsfynydd o'r 15fed o Fedi wedi i waith ffordd yn yr ardal gael ei gwblhau yn ddiweddar.
Er ein bod wrth ein bodd o gael adfer y cysylltiad pwysig hwn, rydym yn parhau i fod yn bryderus ynghylch problemau parcio parhaus yn y pentref. Yn y gorffennol, mae cerbydau sydd wedi'u parcio'n wael wedi achosi anawsterau difrifol a risgiau diogelwch i'r bws sy'n teithio trwy Drawsfynydd. Er mwyn sicrhau y gall y gwasanaeth weithredu'n ddiogel ac yn ddibynadwy, gofynnwn am eich cydweithrediad i gadw'r ffordd trwy'r pentref yn glir ac yn hygyrch bob amser. Byddwn yn monitro'r sefyllfa'n agos a byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid lleol i asesu'r effaith.
Nodyn Atgoffa ynghylch Diogelwch Teithwyr
Byddwch yn ymwybodol na fydd y gwasanaeth T2 yn gollwng nac yn casglu teithwyr ar yr A470 o dan unrhyw amgylchiadau. Rhaid i bob teithiwr ddefnyddio'r safleoedd bws dynodedig yn y pentref. Cynhaliwyd asesiad risg llawn i gefnogi'r penderfyniad hwn.
Os bydd problemau parcio yn parhau, efallai y byddwn yn gorfod tynnu'r gwasanaeth yn ôl o Drawsfynydd. Byddai hyn yn ddewis olaf er mwyn diogelu teithwyr, gyrwyr a cherbydau. Nid yn unig y mae parcio anystyriol yn effeithio ar y rhai sy'n teithio i Drawsfynydd ac oddi yno - gall hefyd amharu ar y gwasanaeth ehangach os bydd y bws yn mynd yn sownd neu'n gysylltiedig â digwyddiad.
Rydym yn gwerthfawrogi dealltwriaeth a chydweithrediad y gymuned wrth i ni weithio i gynnal trafnidiaeth gyhoeddus ddiogel, ddibynadwy a hygyrch i bawb.