Storm Goretti
6 mis yn ôl

Storm Goretti
Oherwydd y risg uchel o eira o Storm Goretti a ragwelir ledled Cymru o brynhawn dydd Iau i ddydd Gwener, rydym yn cynghori cwsmeriaid yn gryf i beidio â theithio ar ôl 18:00 gan fod risg uchel y bydd gwasanaethau'n cael eu canslo'n gynnar oherwydd y tywydd. Ni fydd unrhyw deithiau'n cychwyn ar ôl 20:00. Mae cansliadau ychwanegol yn gynharach yn y dydd, felly gwiriwch cyn i chi deithio.
Ar ddydd Gwener rydym yn disgwyl aflonyddwch sylweddol, ac mae'n debygol y bydd gennym nifer o gansliadau a gwasanaethau wedi'u hatal yn llwyr mewn sawl ardal.
Gwiriwch ein gwefan/ap, gyda gweithredwyr lleol, neu ar gyfryngau cymdeithasol am y wybodaeth ddiweddaraf am y llwybrau yn eich ardal.
Os oes gennych fynediad i ap TrawsCymru gallwch chi roi'r llwybrau rydych chi'n eu defnyddio fwyaf fel ffefrynnau a derbyn hysbysiadau am unrhyw aflonyddwch.