Llai o wario, mwy o joio
1 mis yn ôl
Arbedwch arian* ar gyfer rhywbeth neis trwy newid un neu ddwy daith car yr wythnos i'r bws. Mae pawb yn gwybod pa mor ddrud y gall costau tanwydd a pharcio fod, ac mae hynny ar ben prynu a chynnal a chadw car, felly arbedwch ychydig o arian i chi’ch hunan trwy ddefnyddio eich gwasanaeth TrawsCymru lleol.
Mae prisiau ar wasanaethau T1, T2, T3, T6, T10 a T22 yn syml ac rydych yn talu am y pellter a deithiwyd a dim mwy. Rydym hefyd yn cynnig pecynnau o docyn diwrnod am bris gostyngol ar ein ap ar lwybrau T1, T2, T3, T10 a T22 i'ch helpu teithio o gwmpas am lai o arian. Rydym hefyd yn cynnig tocynnau am bris da ar wasanaethau arall TrawsCymru. Gwelwch ein tudalen Prisiau a thocynnau i ddarganfod mwy.
P’un a ydych yn gwneud taith fer neu un hir, rydym yn rhedeg gwasanaethau ledled Cymru. Edrychwch ar ein map rhwydwaith i ddod o hyd i'ch gwasanaeth agosaf.
Felly, gadewch y car adref a gwariwch yr arian rydych chi’n ei arbed trwy ddal bws ar rywbeth neis.
* Mae tocyn bws wythnosol yn costio llai na 3% o’r cyflog wythnosol o’i gymharu â 9% ar gyfer cerbyd preifat – Arolwg Tocynnau Cenedlaethol TAS 2022.