Rhannwch luniau o'ch teithiau TrawsCymru gyda ni!
3 blynedd yn ôl

Rydyn ni wedi sylwi bod digon ohonoch chi wedi bod allan ar ein rhwydwaith TrawsCymru yn ddiweddar, yn tynnu lluniau hyfryd o’ch teithiau!
Mae rhwydwaith TrawsCymru yn eich cysylltu â rhai o dirweddau gorau Cymru – o’n harfordir godidog i’n cadwyni mynyddoedd anhygoel.
Byddem wrth ein bodd yn gweld a chlywed mwy am eich teithiau ar ein rhwydwaith, felly os ydych yn mynd allan am y diwrnod neu’n mynd ar daith hirach, beth am rannu rhai lluniau o’ch taith gyda ni?
Mae rhannu eich lluniau gyda ni yn syml – gallwch naill ai tagio @trawscymru_ yn eich postiadau ar Trydar neu Facebook, neu os hoffech anfon eich lluniau yn uniongyrchol atom, e-bostiwch [email protected] gyda'ch enw a neges fer ar ble rydych chi wedi teithio a byddwn yn eu rhannu i chi!
Rydym yn edrych ymlaen at weld eich holl luniau gwych!