Rydyn ni'n rhwydwaith cymdeithasol go iawn
4 blynedd yn ôl
Gwnewch ddewisiadau teithio mwy cynaliadwy heddiw
Mae'r pandemig wedi gwneud i ni i gyd feddwl yn wahanol am yr hyn sy'n bwysig i ni a'r ffordd rydyn ni'n byw ein bywydau.
Rydyn ni i gyd yn awyddus i ddychwelyd i ymweld â theulu a ffrindiau a mynd allan. Mae gan deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus ran bwysig i'w chwarae i'n helpu i wneud hyn.
Credwn fod ystyr gwreiddiol 'rhwydwaith cymdeithasol' wedi mynd ar goll. Ar un adeg, roedd yn golygu cerdded gyda ffrind, peidio â sgrolio gwefannau, ymweld â dinasoedd godidog, yn hytrach nag ymweld â gwefannau.
Rydym am ail afael yn ystyr 'rhwydwaith cymdeithasol'. Gall teithio gyda ni eich helpu i ailgysylltu â'r hyn sy'n wirioneddol bwysig i chi.
Rydyn ni eisiau ysbrydoli pobl i deithio'n fwy cynaliadwy p'un a ydyn nhw'n ailgysylltu â ffrindiau a theulu, yn ailddarganfod y lleoedd maen nhw'n eu caru, yn ymweld â lleoedd newydd, neu'n dychwelyd i'r gwaith.
Gwyliwch ein hysbyseb am ysbrydoliaeth.