Rhoi ein cwsmeriaid yn gyntaf gyda diweddariadau teithio personol
6 mis yn ôl

Rhoi ein cwsmeriaid yn gyntaf gyda diweddariadau teithio personol
Pleser yw gallu cyhoeddi bod diweddariadau teithio personol ar gael ar ein ap.
I filoedd ohonom yng Nghymru, mae teithio ar fysiau yn rhan hanfodol o fywyd bob dydd. P'un a ydych chi'n teithio i'r gwaith, yn mynd i siopa neu'n ymweld â ffrindiau, mae darparu diweddariadau teithio ar gyfer gwasanaethau TrawsCymru yn hanfodol ar gyfer taith esmwyth.
Er gwaethaf ein hymdrechion gorau i wneud teithiau mor esmwyth â phosibl, gall amhariadau heb eu cynllunio godi sydd y tu hwnt i'n rheolaeth. Pan fydd yr amhariadau hyn yn digwydd, mae'n bwysig y gallwn rannu'r manylion gyda chi mor gyflym â phosibl. Gall diweddariadau teithio personol sy'n seiliedig ar hysbysiadau gwthio ein helpu i wneud hyn a'ch rhoi chi, y cwsmer, yn gyntaf. Sut gall hyn fod o fudd i chi a'ch busnes?
- Bydd gwybodaeth yn cael ei theilwra i chi ynghylch y daith yr ydych chi arni
- Bydd diweddariadau teithio yn berthnasol i'ch ardal leol
- Bydd cynllunio teithiau yn dod yn fwy effeithlon - gallwch gynllunio o gwmpas unrhyw darfu
- Byddwch yn derbyn cyfathrebiadau mewn ffordd glir a thryloyw
- Bydd diweddariadau'n cael eu hanfon yn uniongyrchol i'ch ffôn yn hytrach na gorfod edrych ar wahanol sianeli cymdeithasol
I gael rhagor o wybodaeth, dilynwch y camau hyn:
- Agorwch ap TrawsCymru a chliciwch ar y ddewislen (3 llinell yn y chwith uchaf)
- Dewiswch Amserlenni i ddod o hyd i'r safle bws neu'r gwasanaeth rydych am gael diweddariadau yn ei gylch
- Cliciwch ar y seren yng nghornel dde'r dudalen. Bydd hyn yn rhoi'r gwasanaeth yn eich ffeil ffefrynnau. Dewiswch safle bws a chliciwch ar y seren eto i roi safle bws penodol yn eich ffolder ffefrynnau.
Yna anfonir hysbysiadau rhybudd pan fydd tarfu heb ei gynllunio yn cael ei greu, gan roi manylion i chi am eich taith.
Mae ein ap ar gael i'w lawrlwytho ar iOS ac Android - gallwch ddysgu mwy am yr ap yma.