5 rheswm pam y dylai dal y bws yn amlach fod yn un o'ch Addunedau Blwyddyn Newydd

7 mis yn ôl Mon 5th Jan 2026

5 rheswm pam y dylai dal y bws yn amlach fod yn un o'ch Addunedau Blwyddyn Newydd

Ydych chi'n ysgrifennu eich Addunedau Blwyddyn Newydd? Dyma 5 rheswm pam y dylai defnyddio'r bws yn amlach fod ar frig y rhestr.

1. Gall leihau straen wrth deithio

Yn hytrach na bod yn sownd mewn ciwiau mewn meysydd parcio a gorfod canolbwyntio’n gyson ar y ffordd, gall teithio ar y bws fod yn gyfle i ymlacio. Dewch â llyfr, gwnewch ychydig o siopa ar-lein neu, yn syml, gwerthfawrogwch y golygfeydd - mae ein llwybr T10 yn cynnwys golygfeydd arbennig o hardd. Mae’r opsiynau’n ddiddiwedd pan rydyn ni’n gyrru yn eich lle chi.

2. Mae’n cryfhau'r gymuned leol

Mae teithio ar y bws yn darparu cysylltiad ledled y gymuned. O addysg a'r daith ddyddiol i'r gwaith, i siopa a thwristiaeth - mae'r cyfan yn cryfhau'r gymuned leol ac yn darparu cysylltiadau pwysig. Dyma rai enghreifftiau o sut y gwnaethom gefnogi cymunedau trwy deithiau bws yn 2025:

  • Dathlu tocynnau bws unffordd am £1 a thocynnau diwrnod am £3 i blant a phobl ifanc
  • Cyflwyno prisiau tocynnau sy'n seiliedig ar bellter ar lwybrau dethol ar gyfer teithiau symlach a gwerth gwell am arian
  • Hyrwyddo tocynnau grŵp dros yr haf ar gyfer diwrnodau allan rhatach
  • Uwchraddio amserlenni er mwyn darparu gwasanaethau bob awr a theithiau gyda'r nos ar lwybrau dethol

3. Mae’n effeithlon o ran ynni

Oeddech chi'n gwybod y gall defnyddio'r bws helpu i leihau allyriadau CO2 42%?

Mae dewis teithio'n gynaliadwy yn golygu y gallwch chi:

  • helpu i ostwng allyriadau carbon
  • cefnogi aer glanach yn eich cymuned
  • lleihau eich ôl troed carbon personol
  • cyfrannu un car yn llai at y ffordd

Os ydych chi'n chwilio am leoedd newydd i deithio heb gar, mae gennych chi ddigonedd o ddewis gyda rhwydwaith TrawsCymru. Cliciwch yma i ddarganfod 50 o leoedd y gallwch chi deithio iddyn nhw ar y bws.

4. Mae’n arbed arian

Nid yw'n gyfrinach y gall cynnal a chadw car fod yn arfer drud, o arian petrol a threth ffordd i ffioedd meysydd parcio a phrofion MOT. Os ydych chi eisiau arbed rhywfaint o arian ond ddim eisiau rhoi'r gorau i'ch car eto, beth am gael diwrnod heb gar unwaith neu ddwywaith yr wythnos? Drwy neidio ar eich gwasanaeth TrawsCymru lleol, gallwch arbed rhywfaint o arian ar betrol a rhoi'r arian ychwanegol hwnnw tuag at rywbeth neis.

5. Mae’n annog ffordd o fyw iachach

Ydy ffitrwydd yn nod rydych chi am weithio tuag ato eleni? Mae teithio ar y bws yn golygu y gallwch chi gerdded i'r safle bws ac oddi yno – 30 munud o gerdded y dydd ar gyfartaledd. Os hoffech chi fynd gam ymhellach, beth am ddod oddi ar y bws un safle’n gynnar? Mae hyn yn golygu y gallwch chi fynd ati i fwynhau awyr iach fel rhan o'ch taith. Efallai y byddwch chi hyd yn oed yn darganfod rhai perlau cudd na fyddech chi wedi'u gweld pe byddech chi'n gyrru.

 

Os ydych chi wedi cynnwys teithio ar y bws ar eich rhestr Addunedau Blwyddyn Newydd, rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu ar ein gwasanaethau. Darganfyddwch ble allwch chi deithio ledled Cymru gyda TrawsCymru: https://traws.cymru/cy/plan-your-journey