Wythnos Caru Parciau

1 flwyddyn yn ôl Mon 28th Jul 2025

Brecon Beacons Reservoir

Wythnos Caru Parciau

25 Gorffennaf i 3 Awst 2025

Wyddoch chi fod gan Gymru fwy o fannau gwyrdd sydd wedi ennill statws Baner Werdd Cymunedol nag unrhyw wlad arall yn y byd?

Rydyn ni yma yng Nghymru wedi cael ein difethaf gan y nifer anhygoel o barciau hardd sydd ar garreg ein drws.  I ddathlu Wythnos Caru Parciau, beth am ymweld ag un ohonynt?  Rydym wedi tynnu rhestr o fannau gwyrdd y gallwch eu cyrraedd gyda TrawsCymru i fanteisio ar heulwen yr haf, a mwynhau harddwch naturiol ledled Cymru. Roedd hi’n dipyn o gamp tynnu'r rhestr - mae cymaint o fannau gwyrdd i ddewis ohonynt!

 

Parc Natur Penglais, Aberystwyth

Dim ond taith gerdded fer o Orsaf Fysiau Aberystwyth yw Parc Natur Penglais sydd ar safle hen chwarel.  Wedi'i amgylchynu gan goetir a nifer o lwybrau cerdded gwahanol i ddewis ohonynt, mae'r parc hwn yn boblogaidd gyda phobl leol a thwristiaid fel ei gilydd am reswm da.  O olygfeydd godidog o Aberystwyth i faes sy’n llawn clychau'r gog yn nhymor y gwanwyn, mae digon i'w fwynhau ym Mharc Natur Penglais.

Teithiwch ar T1, T1C, T2, T5 neu T28 sy'n galw yng Ngorsaf Fysiau Aberystwyth ac yna cerdded llai na 10 munud i'r parc.

 

Brecon Beacons

Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (Brecon Beacons)

All hi ddim bod yn Wythnos Caru Parciau heb sôn am Barc Cenedlaethol eiconig Bannau Brycheiniog (Brecon Beacons)?  Os ydych chi am fwynhau golygfeydd ysblennydd yn un o'r mannau gwyrdd mwyaf poblogaidd Cymru, y Parc Cenedlaethol hwn yw'r lle perffaith i chi: Pen y Fan.  Mae ganddo bedwar llwybr llawn golygfeydd yn amrywio o hawdd i galed gyda chyfle heb ei ail i dynnu llun arbennig iawn o'r copa.  Mae Pen y Fan yn hoff fan nifer fawr iawn o bobl.

Gallwch neidio ar y T4 sy'n mynd â chi'n syth i waelod Pen y Fan yn Aberhonddu am £1! Daw’r cynnig hwn i ben ar 30 Awst, darganfyddwch fwy yma: Pen y Fan am £1

 

Bute Park

Parc Bute, Caerdydd

Ni fyddai taith i Gaerdydd yn gyflawn heb ymweld â Pharc eiconig Bute.  Yn gartref i amrywiaeth o flodau a bywyd gwyllt hardd ar hyd y llwybrau cerdded, mae gan Barc Bute lwybrau golygfaol, gweithgareddau rhyngweithiol a golygfeydd o'r afon wrth groesi'r bont unigryw.  Mae yn hawdd anghofio eich bod yng nghanol dinas wrth gerdded ymysg yr hafan werdd hon. I goroni’ch taith, beth am baned a theisen yng nghaffi Servini.

Gallwch ddal y T1C i Gaerdydd a gwneud eich ffordd tuag at Gastell Caerdydd sy’n agos iawn at Barc Bute.

 

Parc Gwledig Loggerheads, Yr Wyddgrug

Os ydych chi'n chwilio am goetir hardd a dyffryn afon i ymlwybro ynddo, mae Parc Gwledig Loggerheads yn berffaith i chi.  Gallwch grwydro ar hyd yr afon droellog, ymgolli mewn hanes y mwyngloddio a mwynhau golygfeydd hyfryd ar hyd llwybrau sy'n berffaith i deuluoedd a cherddwyr cŵn eu mwynhau.  Ar ôl bod am dro yn y parc, beth am alw yng Nghaffi Florence am baned a theisen.

Nid oes angen talu am barcio.  Teithiwch ar y T8 - mae’r safle bws ychydig gamau y tu allan i Ganolfan Ymwelwyr Parc Gwledig Loggerheads.

 

Parc Fictoria, Abertawe

Yn crwydro o amgylch Abertawe ac awydd mynd am dro yn y parc?  Yng nghudd o fewn y ddinas, mae Parc Victoria, parc sydd wedi ennill sawl Gwobr Baner Werdd y Gymuned.  Mae yno gyrtiau tenis, ardal chwarae i blant a gerddi i'w harchwilio - rhywbeth at ddant pawb.  P'un a ydych chi ffansi egwyl fach ar un o’r meinciau i fwynhau hufen iâ a gwylio'r byd yn mynd heibio neu ddefnyddio'r ardal chwarae gyda'r teulu, mae'r trysor cudd hwn yn opsiwn perffaith.  Os cewch gyfle, ceisiwch alw yn y farchnad ddydd Sul a gynhelir yn y parc ar ddydd Sul cyntaf pob mis.

Mae’n cymryd ychydig llai na 20 munud i gyrraedd Parc Fictoria ar droed o Orsaf Fysiau Abertawe.  Yna, mae bws T6 yn galw.
 

 

Parc Bellevue, Wrecsam

Ardal chwarae, ardaloedd chwaraeon a digon o feinciau - mae gan Barc Bellevue holl nodweddion parc gwych yng nghanol y ddinas.  Yn boblogaidd gyda'r gymuned leol, mae gan y parc hwn rywbeth i bawb, p'un a ydych chi'n chwilio am hwyl i'r teulu, llwybrau sy'n gyfeillgar i gŵn neu fainc i ymlacio arni i fwynhau'r bywyd gwyllt.  Mae gan y parc lwyfan band gyda rhaglen gerddoriaeth drwy gydol yr haf, perffaith ar gyfer nosweithiau cynhesach yn yr awyr agored.

Poeni am le i barcio’r car?  Neidiwch ar y T3.  Mae'r safle bws yn llai na 10 munud ar droed o Barc Bellevue.

 

Ogwen Valley

Parc Cenedlaethol Eryri, Eryri

Parc Cenedlaethol Eryri yw'r hynaf a'r mwyaf o Barciau Cenedlaethol Cymru.  Gyda chymaint o wahanol rannau prydferth i ddewis ohonynt, rydym yn argymell eich bod yn ymweld â Dyffryn Ogwen.  Gan wisgo eich esgidiau cerdded, gallwch fwynhau golygfeydd trawiadol ar draws y dyffryn rhewlifol a golygfeydd rhyfeddol o Eryri.

Neidiwch ar y T10, sy'n rhedeg trwy'r parc ac yn galw yn Ogwen.

 

Strumble Head Lighthouse

Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro

Arfordir godidog, cefn gwlad hardd a bywyd gwyllt lliwgar: croeso i Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro.  Mae Abergwaun, pentref pysgota bach sy'n le perffaith i fynd am dro a mwynhau golygfeydd syfrdanol, wedi’i leoli ar hyd yr arfordir.  O deithiau cerdded ar hyd y traeth hardd i gopaon glaswelltog, mae’r dewis o olygfeydd yn ddiddiwedd.

Neidiwch ar y T5 sy'n teithio trwy Abergwaun. Gallech hefyd archebu tocyn bws fflecsi i fynd â chi i Oleudy Pen-caer ac efallai, gyda lwc, cewch weld dolffiniaid.