Tocynnau diwrnod grŵp
2 fis yn ôl
Ewch allan am lai dros yr haf gyda thocynnau grŵp TrawsCymru. Mae'r tocyn hwn yn ddilys ar gyfer 2 oedolyn ac unrhyw nifer o blant o dan 16 oed ar eu llwybr am dim ond £8. 19 Gorffennaf a 31 Awst 2024.
Archwiliwch eich ardal leol neu ewch am ddiwrnod allan gyda’r tocyn diwrnod grŵp am bris gwych.
Ar gael ar wasanaethau T1, T2, T3, T3C, T6, T10
Prynwch ar y bws, ar ein gwefan neu ar ap TrawsCymru.
Telerau ac amodau
- Yn ddilys am ddiwrnod
- Hyd at 2 oedolyn ac unrhyw nifer o blant o dan 16 oed
- Yn ddilys ar un llwybr yn unig ac ni ellir ei drosglwyddo i lwybrau arall TrawsCymru
- Ar gael ar gyfer y gwyliau haf rhwng 19 Gorffennaf a 31 Awst 2024