Digwyddiadau Nadolig y gallwch eu cyrraedd ar y T3

7 mis yn ôl Fri 14th Nov 2025

Digwyddiadau Nadolig y gallwch eu cyrraedd ar y T3

Mae hud yr ŵyl yn eich disgwyl gyda'r T3.  O gyfle i gwrdd â Sion Corn i oleuadau disglair a chlywed corau yn perfformio, dyma rai digwyddiadau y gallwch ymweld â nhw i ddathlu'r tymor.

 

Cyfle i gwrdd â Siôn Corn yn Rheilffordd Llangollen

Ddiwedd mis Tachwedd a thrwy gydol mis Rhagfyr 2025

Os ydych yn chwilio am olygfeydd prydferth gyda naws Nadoligaidd, ewch i Reilffordd Llangollen. Yn draddodiad y mae’r gymuned rheilffordd yn ei drysori, gallwch fwynhau ardal Dyffryn Glannau Dyfrdwy gyda Siôn Corn ar y trên a bydd ganddo anrheg arbennig i bob plentyn.  Gall oedolion eistedd yn ôl ac ymlacio ar y trên llawn addurniadau Nadoligaidd gyda mins pei am ddim a gwin cynnes.

 

Troi'r Goleuadau Nadolig Ymlaen yn Abermaw

Dydd Iau 4 Rhagfyr 2025

Yn adnabyddus am ei golygfeydd o'r traeth, cofiwch ymweld ag Abermaw y Nadolig hwn. Ewch i'r dref harbwr i weld y Goleuadau Nadolig yn cael eu Troi Ymlaen gan gynnig hwyl i'r teulu cyfan. Bydd y siopau ar agor yn hwyr, bydd cerddoriaeth ac adloniant stryd i'w fwynhau, Groto Siôn Corn a pherfformiad dan do gan gôr Côr Meibion.

 

Ymweliad arbennig gan Siôn Corn yn Rheilffordd Llyn Tegid

Dydd Sadwrn 6 Rhagfyr a dydd Sul 7 Rhagfyr 2025

Mae Rheilffordd Llyn Tegid yn ddiwrnod allan gwych beth bynnag yw'r tymor ond mae'n arbennig o hudolus yn ystod yr adeg hon o'r flwyddyn.  Gyda golygfeydd godidog o Lyn Tegid ac Eryri, mae'r rheilffordd yn cynnig ymweliadau arbennig â Groto Siôn Corn yn ystod tymor yr ŵyl.  Bydd taith Nadoligaidd yn disgyl amdaoch ar hyd y lein lle bydd Siôn Corn yn eich cyfarch a bydd y plant yn derbyn anrheg.  Bydd mins pei a gwydraid o sieri neu ddiod poeth i’r rhieni fwynhau.

 

Yuletide yn Xplore, Wrecsam

20 Rhagfyr 2025

Amgueddfa wyddoniaeth yw Xplore sy'n llawn gweithgareddau rhyngweithiol a dros 80 o arddangosion i'w darganfod.  Os hoffech chi fwynhau digwyddiad Nadoligaidd, beth am ddathlu gŵyl canol gaeaf Yuletide?  Gan gynnwys gwneud torchau o blanhigion y gaeaf, gwneud canhwyllau a mwynhau siocled poeth o amgylch y tân, dyma'r gweithgaredd perffaith i ddathlu tymor y gaeaf.