Diwrnodau allan Nadoligaidd gyda TrawsCymru
7 mis yn ôl

Diwrnodau allan Nadoligaidd gyda TrawsCymru
Os ydych chi'n chwilio am ysbrydoliaeth ar gyfer diwrnod allan hudolus, rydyn ni wedi gwneud yr ymchwil i chi. O wneud plethdorchau a chrwydro o gwmpas marchnadoedd Nadolig i drenau Siôn Corn a bwyd stryd, mae digon o ddigwyddiadau Nadoligaidd i'w mwynhau ar hyd ein rhwydwaith. Bwriwch olwg ar ein rhestr isod i weld pa ddigwyddiadau sy’n digwydd ledled Cymru a daliwch y bws dros dymor y Nadolig.
Abergwaun
Dydd Sadwrn 13 Rhagfyr 2025
Mae gwneud plethdorchau yn weithgaredd perffaith er mwyn i chi gael ymdrochi yn naws y Nadolig. Ewch i'r Manor Town House am weithdy gwneud plethdorchau sy’n para 3 awr gyda’r cwmni Flowers by Annabelle, lle byddwch yn defnyddio amrywiaeth o flodau tymhorol godidog.
Gwerthwyd pob tocyn ar gyfer gweithdy’r llynedd, felly peidiwch â’i fethu - archebwch eich tocynnau heddiw a chofleidiwch ysbryd yr ŵyl.
Neidiwch ar y T5 neu'r T11 i gyrraedd Abergwaun.

Y Bermo
Dydd Iau 4 Rhagfyr - Dydd Sul 7 Rhagfyr 2025
Daw marchnad Nadolig gyntaf erioed Y Bermo ym mis Rhagfyr. Wedi'i gwasgaru dros bedwar diwrnod, bydd danteithion Nadoligaidd i bawb eu mwynhau, o win brwd i selsig Almaenig.
Neidiwch ar y T3 neu'r T3C i gyrraedd Y Bermo.
Dolgellau
Dydd Sul 14 Rhagfyr 2025
Mae gorymdaith gyffrous y Nadolig yn dychwelyd i Ddolgellau. Gyda thractorau wedi’u haddurno â goleuadau, mae hwn yn ddigwyddiad cymunedol poblogaidd a fydd yn caniatáu i chi ymgolli’n llwyr yn hwyl yr ŵyl a chodi arian ar gyfer dwy elusen.
Daliwch y T2, T3 neu T3C i gyrraedd Dolgellau.

Marchnad Nadolig Abertawe
Dydd Sadwrn 29 Tachwedd - dydd Llun 22 Rhagfyr 2025
Mae Marchnad Nadolig Abertawe yn dychwelyd, y lle perffaith i groesawu'r dathliadau. P'un a ydych chi'n ymweld â Chaban y Carolwyr am adloniant cerddorol neu'n mwynhau diod glyd yn y Bar Bafaraidd, dyma le gwych i dreulio diwrnod allan dros gyfnod yr ŵyl.
Neidiwch ar y T6 i gyrraedd Abertawe.
Ras Sion Corn, Caer
Dydd Sul 7 Rhagfyr 2025
Ymunwch â miloedd o bobl wedi’u gwisgo fel Siôn Corn yn 14eg Ras Siôn Corn Caer. Mae'r digwyddiad hwn yn dod â'r gymuned ynghyd ac yn codi arian ar gyfer dwy elusen leol, gan ddod â naws y Nadolig yn fyw i bawb sy'n cymryd rhan.
Neidiwch ar y T8 i gyrraedd Caer.
Rhuthun
Dydd Sadwrn 29 Tachwedd 2025
Ewch i ymweld â marchnad cynnyrch cartref fwyaf y DU yn Rhuthun. Wedi'i gwasgaru ar draws 6 safle hanesyddol, mae dros 150 o stondinau i'w harchwilio. O gelf a chrefft wedi'u gwneud â llaw i fwyd a diod blasus, dyma'r lle perffaith i siopa'n lleol a dod o hyd i drysorau Nadoligaidd.
Mae mynediad am ddim, felly dewch â'r teulu cyfan i fwynhau'r awyrgylch hudolus.
Daliwch y T51 i grwydro Rhuthun.

Trenau Siôn Corn Rheilffordd Ucheldir Cymru, Porthmadog
Yn rhedeg o ddydd Sadwrn 6 Rhagfyr 2025 ar ddyddiadau dethol.
Mwynhewch hud a lledrith clasurol y Nadolig ar Drenau Siôn Corn Rheilffordd Ucheldir Cymru. Bydd Ogof Cerbyd Nadolig Siôn Corn hefyd ar gael i ymweld ag ef yng Ngorsaf yr Harbwr, gan ddod â llawenydd i bob teithiwr. Yn berffaith i deuluoedd, mae hwn yn cynnig diwrnod allan hudolus.
Dysgwch fwy ar eu tudalen Facebook: https://www.facebook.com/festrail
Neidiwch ar y T22 i gyrraedd Porthmadog.
Amgueddfa Rheilffordd Cwm Rheidol, Aberystwyth
Dydd Sadwrn 13 - Dydd Sul 14 Rhagfyr, a Dydd Mercher 17 - Dydd Mawrth 23 Rhagfyr 2025
Mae antur Nadoligaidd newydd sbon yn dod i Aberystwyth ym mis Rhagfyr. Gydag Amgueddfa Reilffordd Dyffryn Rheidol yn gefnlen hudolus iddo mae digwyddiad dan do ymdrochol - Tocyn i'r Nadolig.
Cofrestrwch yn Swyddfa Basbort Pegwn y Gogledd, lle byddwch yn derbyn enw coblyn, ac yna gadewch i'r antur gychwyn. O Gegin Claus i Ogof Siôn Corn, mae'r digwyddiad hwn yn cynnig profiad bythgofiadwy.
Mae'r T1, T1A, T1X a T5 i gyd yn galw yn Aberystwyth.
Castell Cyfarthfa, Merthyr Tudful
O ddydd Mawrth 18 Tachwedd 2025 ymlaen ar ddyddiadau dethol
Os ydych chi ym Merthyr, mae ymweliad â Chastell Cyfarthfa yn hanfodol, lle cynhelir digwyddiadau drwy gydol tymor yr ŵyl. O weithdai coblynnod a chyngherddau carolau i Farchnad Nadolig ddydd Sul 7 Rhagfyr, mae rhywbeth at ddant pawb.
Neidiwch ar y T4 i gyrraedd Castell Cyfarthfa.
Marchnad Nadolig Eryri a Chynhyrchwyr Lleol, Betws-y-Coed
Dydd Sadwrn 29 Tachwedd - Dydd Sul 30 Tachwedd
Ydych chi am gefnogi busnesau lleol wrth siopa am anrhegion Nadolig? Ewch i Farchnad Nadolig Eryri a Chynhyrchwyr Lleol yng Ngwesty'r Royal Oak. Mwynhewch gorau a cherddorion lleol a phorwch drwy stondinau amrywiaeth o wneuthurwyr lleol i weld pa ddanteithion Nadoligaidd sydd ar gael.
Neidiwch ar y T10 sy'n mynd â chi'n syth i Westy'r Royal Oak.

Marchnadoedd Nadolig Bryste
Dydd Gwener 7 Tachwedd - Dydd Mawrth 23 Rhagfyr
Hoffech chi fynd ar daith Nadoligaidd dros y ffin? Bryste yw'r gyrchfan berffaith. Ewch i Farchnad Nadolig Bryste a leolir yng nghanol y ddinas, lle gallwch chi fwynhau dros 40 o stondinau gwahanol, blasu bwyd lleol a dod o hyd i drysorau cudd.
Neidiwch ar y T7 i archwilio Bryste.