Amserlen estynedig wedi’i chyhoeddi ar gyfer yr Eisteddfod

1 flwyddyn yn ôl Tue 29th Jul 2025

Eisteddfod

Amserlen estynedig wedi’i chyhoeddi ar gyfer yr Eisteddfod

Er mwyn helpu ymwelwyr sy'n dathlu dychweliad yr Eisteddfod Genedlaethol i Wrecsam, mae TrawsCymru yn ehangu'r gwasanaeth bws T3 mewn cydweithrediad â Lloyds Coaches i alw yn y Maes. Bydd hyn yn ei gwneud hi'n haws i deithwyr gysylltu â chanolfannau teithio allweddol a safle'r eisteddfod.

Bydd y gwasanaeth rhwng y Maes a Gorsaf Fysiau Wrecsam am ddim, gyda bwcedi codi arian ar gyfer elusen y flwyddyn Trafnidiaeth Cymru a TrawsCymru, Seren Dwt. Bydd prisiau safonol yn berthnasol ar bob llwybr bws a thrên y tu allan i'r gwasanaeth T3 o orsaf fysiau Wrecsam i'r Maes.

Mae amserlen lawn ar gael yma.