Archwiliwch Lwybr Arfordir Cymru yng ngorllewin Cymru gyda thocyn diwrnod TrawsCambria

Heddiw Thu 13th Aug 2026

Wales Coast Path

Gadewch y car gartref a mwynhewch Lwybr Arfordir Cymru ar y bws am £6.50 gyda thocyn diwrnod TrawsCambria.

Mae teithio ar y bws yn berffaith ar gyfer anturiaethau llawn prydferthwch ar hyd Llwybr Arfordir Cymru. Os ydych yn dymuno archwilio gorllewin Cymru, mae defnyddio tocyn bws TrawsCambria yn hwyluso’ch taith yn fawr. Gallwch brynu’ch tocyn ar ap TrawsCymru, lle fydd yn ddilys am 24 awr wedi ichi ei brynu. Mae tocynnau ap a brynwyd ar y bws yn ddilys tan ddiwedd y diwrnod hwnnw.

O Aberystwyth i Aber-porth, dyma enghraifft o sut y gallwch wneud y mwyaf o’ch tocyn bws £6.50 ar hyd Llwybr Arfordir Cymru.

Aberystwyth Constitution Hill

Aberystwyth

Gan ddechrau yn Aberystwyth, ceir digonedd o bethau i’w canfod. Efallai yr hoffech archwilio’r promenâd, y tafarndai, Llyfrgell Genedlaethol Cymru neu Reilffordd Cwm Rheidol. Os hoffech fynd am dro bach ar hyd Llwybr Arfordir Cymru, beth am roi cynnig ar y daith gylchol tuag at Glarach? Gyda thraeth prydferth a golygfeydd o’r môr o Graig Glais, mae’r daith gerdded yn cymryd rhwng 1-2 awr ac mae’n ffordd wych o weld mwy o olygfeydd Aberystwyth.

Unwaith ichi orffen yn Aberystwyth, neidiwch ar fws T1 neu T5 TrawsCymru gyda’ch tocyn TrawsCambria. Unwaith ichi ei actifadu ar yr ap, bydd eich tocyn yn fyw am 24 awr, sy’n rhoi digonedd o amser ichi archwilio gorllewin Cymru. Eich safle nesaf yw’r dref harbwr hyfryd, Aberaeron.

Aberaeron

Aberaeron

Mae Aberaeron a’i holl liwiau llawen yn drysor arfordir gorllewin Cymru. Yma cewch fwynhau’r harbwr a’r siopau annibynnol gyda hufen ia. Mae Aberaeron hefyd yn borth i un o rannau mwyaf poblogaidd Llwybr Arfordir Cymru - Aberaeron i Gei Newydd. Mae’r daith gerdded hon yn cymryd rhwng 3 a 4 awr; crwydrwch ar hyd y morlin rhyfeddol gan gerdded drwy’r mannau lle gwnaeth Dylan Thomas dreulio’i amser yn ysgrifennu.

Os fyddai’n well gennych neidio ar fws i’ch cyrchfan nesaf yn y gorllewin, defnyddiwch eich tocyn TrawsCambria i ddal y bws T5 i Gei Newydd.

New Quay

Cei Newydd

Mae Cei Newydd yn fan gwych i archwilio rhannau byr o Lwybr Arfordir Cymru. Os wnaethoch chi ddal y bws, gallech gerdded i’r traethau, Traeth Cei neu Draeth Llanina, sy’n segmentau byrrach o lwybr Aberaeron. 

Beth am aros dros nos yng Nghei Newydd? Mwynhewch bysgod a sglodion ar yr harbwr neu bryd o fwyd mewn bwyty lleol. Os wnaethoch brynu’ch tocyn TrawsCambria ar yr ap, bydd o hyd yn ddilys yn y bore.

Gyda golygfeydd o’r traethau, y môr, a’r harbwr, mae’r bore yng Nghei Newydd yn le hyfryd i fod ynddi, a cheir y cyfan oll ar garreg eich drws. Er mwyn gwneud y mwyaf o’ch bore, rydym yn argymell cerdded ar hyd llwybr y dref sy’n cysylltu gyda Llwybr Arfordir Cymru. Mwynhewch wrth grwydro ar hyd yr harbwr gan ymweld â’r cerflun morwynol nodedig a Chanolfan Bywyd Gwyllt Morol Bae Ceredigion.

Mae hi’n amser i ddal y bws i’r cyrchfan olaf yn y gorllewin gan ddefnyddio’ch tocyn TrawsCambria - neidiwch ar y gwasanaeth T5 i Aber-porth.

Aberporth

Aber-porth

Mae Aber-porth yn fan gwych i’w harchwilio ar hyd Llwybr Arfordir Cymru. Mae’r traethau tywodlyd, golygfeydd prydferth o Fae Ceredigion, a’r pentref pysgota yn boblogaidd ymhlith pobl lleol a thwristiaid. Ar gyfer eich taith gerdded hwylus olaf, beth am wneud y daith gylchol i Dresaith? Gyda meinciau, bwyd a diodydd yn ogystal â golygfa o’r môr, mae’n daith gerdded hyfryd i orffen eich taith.

Os oes o hyd amser ar ôl ar eich tocyn bws TrawsCambria, gallech ddal y bws T5 yn ôl i Aberystwyth er mwyn cloi eich 24 awr yng ngorllewin Cymru.

Mae ein tocyn TrawsCamrbia yn eich cysylltu â sawl llwybr bws yn y gorllewin gyda theithiau rheolaidd a dewis eang o deithiau cerdded. Am £6.50, gallwch neidio ar y bws ac oddi arno’n hwylus ar hyd Llwybr Arfordir Cymru.

Dechreuwch gynllunio’ch taith ar hyd arfordir y gorllewin gyda thocyn TrawsCambria yma.

*Yn ddilys ar y gwasanaethau canlynol:
T1 rhwng Aberystwyth ac Aberaeron
T2 / T28 rhwng Dolgellau ac Aberystwyth
T3 / T3C rhwng Abermaw a Dolgellau
T5 rhwng Aberystwyth ac Aberteifi