Dewch i ddarganfod mwy am Gymru y gaeaf hwn gyda TrawsCymru

3 blynedd yn ôl Mon 23rd Jan 2023

Os ydych chi’n awyddus i fwynhau’r awyr agored eleni, rydyn ni yma i helpu.

Mae ein rhwydwaith TrawsCymru yn teithio drwy rai o dirweddau mwyaf ysblennydd Cymru, gan eich cysylltu â’r llefydd rydych chi’n eu caru am bris rhesymol.

Felly beth am ddechrau’r flwyddyn newydd ar y droed flaen – chwythu’r llwch oddi ar yr esgidiau cerdded, gadael y car gartref ac archwilio rhai o’n hoff leoliadau cerdded y gaeaf hwn – a’r cyfan ar gael drwy rwydwaith TrawsCymru.

Image of walking boots on a hillside

 

Pen-y-Fan ac Aberhonddu – Gwasanaethau T4 a T6

Mae ein gwasanaeth T4 yn mynd â chi’n syth i waelod un o fynyddoedd mwyaf eiconig Cymru – Pen-y-Fan.

Mae’r llwybr hwn yn siŵr o chwythu’r gwe pryf cop i ffwrdd a gall y tywydd cyfnewidiol wneud i’r ddringfa i’r copa fod yn her go iawn – felly gwnewch yn siŵr eich bod yn barod ar gyfer yr un yma!

Mae tref Aberhonddu hefyd yn ganolfan wych i archwilio’r llu o fannau trawiadol sy’n llenwi'r tirlun o’i hamgylch. Neu os ydych chi awydd rhywbeth ychydig yn fwy hamddenol, ewch am dro ar hyd llonyddwch Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu sy’n rhedeg drwy’r dref.

Mae rhagor o wybodaeth am deithiau cerdded a llwybrau lleol o amgylch Aberhonddu ar gael yma.

Image of snow covered Pen y fan mountain

 

Parc Cenedlaethol Eryri – Gwasanaethau T2 a T10

Gyda chasgliad o gopaon trawiadol a mawreddog, os ydych chi’n bwriadu mynd â’ch mynydda i’r lefel nesaf (yn llythrennol!), yna Eryri yw’r lleoliad perffaith.

Ond nid mynyddoedd yn unig a geir yma. Mae lleoliadau glan môr hardd fel Abermaw a Harlech, gyda’i gastell anhygoel, gerllaw – sy’n berffaith i’r rheini sy’n chwilio am opsiynau cerdded mwy hamddenol.

Bydd y gwasanaeth bws Sherpa’r Wyddfa, sydd wedi’i ailwampio’n ddiweddar, yn eich helpu i gyrraedd lle rydych chi eisiau mynd.

Mae rhagor o wybodaeth am deithiau cerdded a llwybrau lleol o amgylch Eryri ar gael yma.

View of the mountains of snowdonia national park

 

Y Gelli Gandryll – gwasanaeth T14

Efallai bod y Gelli Gandryll yn enwog am fod yn ‘dref y llyfrau’ ond mae’r dref fechan hon ar y ffin yn cynnig digon o lwybrau cerdded gwych.

O ganol y dref, ewch am dro hamddenol ar Lwybr Bailey, llwybr 1.5 milltir sy’n rhedeg ochr yn ochr â glannau prydferth afon Gwy.

Neu os ydych chi’n teimlo’n fwy anturus, beth am fynd allan o’r dref ar Lwybr Clawdd Offa i gyfeiriad y Mynydd Du mawreddog. Ar ôl cyrraedd yno, byddwch chi’n gallu cerdded ar hyd brig Penybegwn, sy’n cynnig golygfeydd godidog ar draws y dref a thu hwnt.

Mae rhagor o wybodaeth am deithiau cerdded a llwybrau lleol o amgylch y Gelli Gandryll ar gael yma.

Birdseye view of the river wye

 

Betws-y-Coed – gwasanaeth T10

Mae Betws-y-Coed yn baradwys i gerddwyr.

Mae’r pentref gwyliau hwn yng nghanol y mynyddoedd yn nyffryn Conwy yn cynnig llwyth o deithiau cerdded i bob oed a gallu.

Os ydych chi’n bwriadu aros yn agos at y dref, mae taith gerdded ar hyd yr Afon Llugwy hyfryd yn berffaith i deuluoedd sydd â phramiau, cadeiriau olwyn a’r rheini nad ydynt yn gallu cerdded yn bell. Os oes gennych chi awydd mynd ymhellach, mae yna ddigon o berlau cudd – gan gynnwys y Rhaeadr Ewynnol rhamantus a’r Tŷ Hyll eiconig.

Mae natur wyllt Coedwig Gwydyr yn ddewis da os ydych chi’n awyddus i archwilio ychydig ymhellach. Mae yma lwybrau niferus, llwybrau hen lowyr a llwybrau beiciau a fydd yn eich arwain at lynnoedd hudolus Llyn Elsi, Llyn Parc, Llyn Geirionnydd a Llyn Crafnant.

Mae rhagor o wybodaeth am deithiau cerdded a llwybrau lleol o amgylch Betws-y-coed ar gael yma.

View of Betws-y-coed village with scenic backdrop

 

Arfordir Sir Benfro – gwasanaethau T11 a T5

Mae awyr iach y môr yn wych i’ch helpu i ddianc rhag y felan ym mis Ionawr. Os ydych chi awydd rhywbeth sy’n golygu llai o ddringo, yna mae taith gerdded arfordirol yn swnio’n berffaith.

Ewch tua’r gorllewin i Sir Benfro a rhyfeddu at harddwch Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Mae digon o opsiynau cerdded yma hefyd – gan gynnwys llwybr arfordir eiconig Cymru.

Mae rhagor o wybodaeth am deithiau cerdded a llwybrau lleol o amgylch Sir Benfro ar gael yma.

Cliff view of Pembrokeshire coast

 

Llangollen – gwasanaeth T3

Gyda’i harddwch gwyllt a garw, mae Llangollen yn gyrchfan brysur i gerddwyr ac mae’n werth ymweld â hi eleni.

Os ydych chi’n chwilio am lwybrau hamddenol, mae Llangollen wedi’i bendithio â dwy ddyfrffordd hardd – Camlas Llangollen ac Afon Dyfrdwy. Mae’r ddwy yn cysylltu â’i gilydd ychydig filltiroedd y tu allan i’r dref, yn Ninbren – gan ddarparu llwybr cylchol hyfryd.

Neu beth am fentro i fawredd Dinas Brân – y castell adfeiliedig fry sy’n gwarchod Llangollen.

Mae rhagor o wybodaeth am deithiau cerdded a llwybrau lleol o amgylch Llangollen ar gael yma.

Scenic view of Llangollen town

 

Caer – gwasanaeth T8

Dyma’r unig ddinas ar ein llwybr cerdded, ond byddech yn synnu faint sydd gan Gaer i’w gynnig.

Mae’r llwybr ar hyd muriau Rhufeinig hanesyddol y ddinas yn un sy’n rhaid ei gerdded – y muriau dinesig hynaf, hiraf a’r mwyaf cyflawn yn y DU. Maen nhw’n ymestyn dros bellter o oddeutu dwy filltir, gan gynnig opsiwn hyfryd ar gyfer dro prynhawn diddorol gyda’r teulu.

Mae rhagor o wybodaeth am deithiau cerdded a llwybrau lleol o amgylch Caer ar gael yma.

Image of the Eastgate clock in Chester

 

Bwcio eich taith

Mae’n hawdd teithio gyda ni – cynlluniwch eich taith a phrynu tocynnau gan ddefnyddio ein ap TrawsCymru.

Mae ein ap newydd yn eich galluogi i weld amserlenni bysiau, gweld diweddariadau tracio cerbydau byw ac mae’n rhoi gwybod i chi faint o allyriadau carbon rydych chi’n eu harbed drwy deithio gyda ni – o gymharu â phetaech chi’n gyrru.